Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwahodd gofalwyr di-dâl i agoriad canolfan newydd i ofalwyr yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwahodd gofalwyr di-dâl i agoriad canolfan newydd i ofalwyr yn Wrecsam
Pobl a lle

Gwahodd gofalwyr di-dâl i agoriad canolfan newydd i ofalwyr yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 30, 2023 1:40 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Unpaid carer
RHANNU

Mae GOGDdC, sy’n darparu’r holl wasanaethau gofalwyr oedolyn di-dâl ar ran Cyngor Wrecsam, yn agor canolfan newydd i ofalwyr yn Wrecsam a byddant yn cynnal diwrnod agored ddydd Llun, 6 Mawrth rhwng 11am-2pm.

Cynnwys
  • Ydych chi’n ofalwr di-dâl?
    • “Dewch draw i gwrdd â ni”
    • “Cael syniad o’r mathau gwahanol o gymorth”
      • Ynglŷn â GOGDdC

Gwahoddir gofalwyr di-dâl sy’n byw yn Wrecsam i gael golwg o amgylch y ganolfan newydd, cwrdd â’r tîm a dysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael.

Dyma gyfeiriad y ganolfan newydd: 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT (y tu ôl i Westy’r Ramada).

Nid oes rhaid archebu o flaen llaw. Mae lle parcio y tu ôl i’r adeilad neu os ydych chi’n teithio ar fws, rydym ar lwybr bws uniongyrchol.

Ydych chi’n ofalwr di-dâl?

Ydych chi’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl? Os mai ‘ydw’ yw eich ateb, yna gall y gwasanaeth gofalwyr eich helpu chi.

Gofalwr di-dâl yw unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl (heb gynnwys budd-daliadau) am berthynas, partner neu ffrind sy’n wael, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

“Dewch draw i gwrdd â ni”

Dywedodd Claire Sullivan, Prif Weithredwr GOGDdC: “Mae GOGDdC yn falch o agor canolfan newydd i ofalwyr, sydd wedi’i lleoli yng nghanol Wrecsam, ac yn agos at ysbyty Maelor. Rydym yn gobeithio y bydd gofalwyr yn ei defnyddio fel man lle gallant alw heibio am gefnogaeth, mynychu cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau cymdeithasol.

“Mae’r tîm yn Wrecsam yn brofiadol iawn wrth gefnogi gofalwyr ar draws Wrecsam, ac o bosib y gallant gynnig rhywfaint o gyngor a chefnogaeth i chi. Mae GOGDdC yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod gofalwyr yn derbyn y wybodaeth gywir ar yr amser cywir, bod gennych lais a’ch bod yn cael eich cefnogi.

“Dewch draw i gwrdd â ni, edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd.”

“Cael syniad o’r mathau gwahanol o gymorth”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’n wych ein bod yn cael canolfan newydd i ofalwyr a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth i’r holl ofalwyr di-dâl ardderchog ar draws Wrecsam.

“Gall bod yn ofalwr brofi’n anodd iawn a gellir teimlo’n hynod ynysig ac unig ar brydiau, felly mae cael rhywle lle gallwch alw heibio am y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, yn ogystal â mynediad hawdd at wybodaeth werthfawr, yn hynod bwysig. Rydym yn annog ein gofalwyr di-dâl i ddod draw i’r diwrnod agored ddydd Llun, 6 Mawrth i gael syniad o’r mathau o gymorth sydd ar gael iddynt.”

Ynglŷn â GOGDdC

Mae GOGDdC yn ddarparwr gwasanaethau gofalwyr i ofalwyr di-dâl yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Maent yn darparu rhaff achub i ofalwyr o bob oed a chefndir ac yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi’u teilwra i fodloni anghenion unigol.

Mae gwasanaethau yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol, cynllun seibiant arobryn, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, Meddyg Teulu, cymorth ysbyty a llawer mwy.

Gallant eich helpu i gael mynediad at y wybodaeth, yr arweiniad a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu yn eich rôl fel gofalwr. Gallant hefyd eich hysbysu o’ch hawliau fel gofalwr di-dâl.

Cysylltwch â GOGDdC – am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.newcis.org.uk/contact/

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol St David's Day Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi – Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod prysur yng nghanol y ddinas yfory!
Erthygl nesaf Saint David's Day GWYLIWCH: Neges Dydd Gŵyl Dewi arbennig ar gyfer y dynion a’r merched sy’n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog a’n gwasanaeth sifil

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English