Mae oriel annibynnol wedi symud i safle newydd – gan nodi lansiad ei arddangosfa agored.
Dechreuodd Oriel Annibynnol Wrecsam (tWIG) ym Medi 2016 ym mhrif ardal yr hen Farchnad y Bobl, cyn symud i Arcêd y De fis Mawrth eleni.
Gyda chymorth Cyngor Wrecsam, mae bellach wedi ehangu ei waith i ail leoliad yn Arcêd y De.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae’r symudiad hefyd yn nodi dechrau Arddangosfa Agored y grŵp, sy’n caniatáu i unrhyw artist yn Wrecsam gyflwyno eu gwaith i’w arddangos.
Yn ogystal â darparu lle i artistiaid arddangos eu gwaith, mae tWIG hefyd yn darparu gweithdy celf technegol ac addysgol.
Mae’r oriel yn cynnal arddangosfeydd celf a chrefft rheolaidd, ac mae’n agored i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim, rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Mae Keith Evans, cadeirydd TWIG, yn gyn-athro ac yn ffotograffydd ac arlunydd ar hyd ei oes
Meddai: “Mae yna awydd mawr iawn ar gyfer celf ymhlith pobl Wrecsam, ac yr ydym am helpu’r rhai na fyddai fel arfer wedi ystyried eu hunain â thalent artistig i gael rhywfaint o hyfforddiant a rhoi cyfle iddynt ddatgloi eu potensial.
“Ein nod yn y pen draw yw gallu darparu gweithdai am ddim i unrhyw un â diddordeb, fel y gallwn ddatblygu eu creadigrwydd a’u sgiliau – ac mae rhai o’r gweithdai yr ydym wedi eu cynnig hyd yn hyn yn amrywio o sesiynau rhoi cynnig, i sesiynau addysgu mwy ffurfiol dan arweiniad artistiaid a chrefftwyr profiadol.
“Rydym hefyd yn darparu deunyddiau – nid oes angen i bobl gael eu digalonni gan y gost. Nod cyffredinol ein cynnig yw sicrhau nad yw pobl yn cael unrhyw rwystrau wrth roi cynnig ar gelf.”
Ychwanegodd Keith: “Rydyn ni’n gweithio llawer gydag Oriel Wrecsam er mwyn hyrwyddo’r celfyddydau – gallwn ni helpu i roi’r gorau i gynnig y celfyddydau yn y dref trwy roi lle ar gyfer amaturiaid ac artistiaid cymunedol ymroddedig i ddangos eu gwaith.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r gwaith a wneir gan tWIG yn ardderchog, gan eu bod wedi helpu i annog artistiaid amatur yn Wrecsam i arddangos eu gwaith, a rhoi iddynt rywle lle gallant weithio ar eu sgiliau artistig trwy weithdai a thiwtora.
“Mae ymestyn i safle newydd yn newyddion da, a gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt ehangu eu gwaith ymhellach.
“Basai’n annog unhryw un sydd a ddiddordeb yn y chelfyddydau i ymweld a’r oriel.”
Am fwy o wybodaeth ar tWIG a sut mae’n gweithio, ewch i www.wrexhamindependentgallery.wales (dolen gyswllt Saesneg)
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU