Mae Safonau Masnach wedi cael adroddiadau am alwyr digroeso yn yr ardal yn cynnig glanhau landeri pobl am brisiau sy’n ymddangos yn rhad iawn. Byddwch yn ofalus os bydd unrhyw un yn dod i’ch cartref ac yn cynnig hyn.
Mae’r adroddiadau hyn yn sôn bod y dynion, sydd fel arfer yn teithio mewn fan wen, yn cnocio ar eich drws ac yn dangos bwced o ddŵr budr – maen nhw’n honni eu bod newydd lanhau landeri yn eiddo’ch cymdogion.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Byddant yn gofyn i chi os hoffech chi iddyn nhw lanhau eich landeri chithau hefyd, gan obeithio y byddwch yn derbyn y cynnig. Yn amlach na pheidio, nid oes ganddynt yr ysgolion nac unrhyw offer arbenigol y byddent ei angen i gyrraedd a glanhau’r landeri. A dweud y gwir, mae Safonau Masnach yn credu nad ydynt yn gwneud UNRHYW WAITH O GWBL.
Fel arfer, pobl hŷn a phobl diamddiffyn, sy’n byw ar eu pen eu hunain, sy’n cael eu targedu. Mae’r dynion yn mynnu taliad, ac yn dilyn y perchennog i mewn i’w gartref ac yn cymryd hynny o arian parod sydd ganddynt. Yna, mae’r dynion yn diflannu.
Mae Safonau Masnach yn cynghori os nad ydych yn disgwyl i rhywun alw, PEIDIWCH AG AGOR Y DRWS. Os byddwch yn agor y drws, dywedwch wrthynt nad oes gennych chi ddiddordeb, a chaewch y drws y tu ôl i chi. PEIDIWCH BYTH â chymryd diddordeb yn eu gwasanaeth ar y stepen drws….fel hynny, nid ydynt yn cymryd eich arian, nid ydynt yn gallu eich dilyn chi mewn i’ch cartref ac rydych chi’n ddiogel.
Os hoffech gwyno neu gael cyngor am nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth ar 03454 040505
Neu, os hoffech roi gwybod am rhywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cyngor Ar Bopeth ar 03454 040506 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION