Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam wedi bod yn cynnig cyngor i safleoedd trwyddedig sy’n dangos gemau pêl-droed yn ystod Covid i helpu i sicrhau bod eu staff a chwsmeriaid yn aros yn ddiogel.
Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef.
- Mae’n well i chi drefnu lle a chynllunio ymlaen llaw, ond mae rhai lleoliadau ar agor i bobl gerdded i mewn a gall ciwiau ffurfio y tu allan os ydynt eisoes yn llawn o ran niferoedd cwsmeriaid.Gall hyn olygu aros yn hir felly os byddwch yn gweld ciw hir, ceisiwch feddwl ble arall y gallech fynd yn hytrach nag aros eich tro.
- Mae gofynion cadw pellter cymdeithasol yn gyfraith a rhaid cadw atynt.
- Mae gan fusnesau gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw un sy’n ciwio i ddod i mewn i’w safle yn cadw 2 fetr ar wahân, waeth pa mor hir yw’r ciw.
- Mae cwsmeriaid hefyd yn cael eu hatgoffa o hyn ac os bydd staff yn gofyn i chi gadw pellter, gwnewch hynny’n gwrtais. Mae’n bwysig cofio bod staff diogelwch a staff goruchwylio drysau yn gweithio i’ch cadw chi a’r rhai sydd gyda chi yn ddiogel ac ni fyddant yn goddef camdriniaeth.
- Wrth fynd i mewn, gofynnir i chi roi manylion ar gyfer y system profi ac olrhain.
- Cofiwch hefyd fynd â’ch masg neu orchudd wyneb a rhoi sylw manwl i hylendid dwylo.
- Mae’r arweiniad presennol yn argymell cadw darlledu chwaraeon byw ar lefel sŵn gefndirol, felly mae’n bosibl y bydd y sŵn ychydig tawelach na’r hyn rydych wedi arfer ag ef.
- Dylid gosod sgriniau fel nad ydynt yn annog pobl i ddod at ei gilydd neu sefyll.
- Dylai pob lleoliad sicrhau bod camau’n cael eu cymryd fel nad yw pobl yn gorfod codi eu lleisiau’n ormodol ar y naill a’r llall. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, peidio â chwarae cerddoriaeth neu ddarllediadau sy’n annog gweiddi, yn cynnwys ar lefel sy’n gwneud sgwrs naturiol yn anodd.
Mae’n bosibl y bydd gan y safleoedd bosteri a chyhoeddiadau am y rheolau hyn.
Bydd staff yn atgoffa’r holl gwsmeriaid o’r hyn i’w ddisgwyl wrth ryngweithio â nhw.
Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid nad ydynt yn cadw at y rheolau yn cael eu hatgoffa o ganlyniadau peidio ag ymddwyn yn y ffordd sy’n dderbyniol ar hyn o bryd.
Mae rheolau Covid yno i ddiogelu staff a chwsmeriaid, gan alluogi darlledu diogel sy’n unol â’r gyfraith.
Os bydd y gyfraith yn cael ei thorri o gwbl yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn effeithio ar y safle rydych wedi’i ddewis, ond hefyd gall effeithio ar iechyd pawb yn y gymuned.
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:”Yn ystod Ewro 2016, roedd gan gefnogwyr Cymru enw da o ran gallu mwynhau eu hunain yn fawr iawn, ond mewn ffordd barchus.
“Nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni ailadrodd hyn gartref!
“Gwnewch bopeth allwch chi i gadw at y rheolau a mwynhau’n ddiogel … pob lwc Cymru!”
“Mae hwn yn gyfle arall i dangos bod cefnogwyr Cymru yn gallu ymddwyn mewn ffordd bleserus”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN