Bydd y ffordd yr ydym ni’n cyflwyno ein cynlluniau i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 yn destun adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ddydd Mercher, sy’n cynnwys amrywiaeth o brosiectau sydd wedi’u cwblhau neu yn yr arfaeth yn rhan o’n Cynllun Datgarboneiddio.
Mae’r adroddiad yn cynnwys prosiectau fel gosod paneli solar ar ganolfannau hamdden, rhoi addysg ar gadwraeth a gwarchod dŵr, cynyddu gorchudd coetiroedd a chynnwys cymunedau yng ngwaith datblygu, rheoli ac adfer coetiroedd, ac ariannu prosiect peilot dwy ysgol gynradd newydd ddi-garbon. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gael canolbwynt symudedd yng nghanol y ddinas
Mae’r rhain yn ychwanegol i’r cynlluniau i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled y fwrdeistref sirol:
- Burton Terrace (Acrefair)
- Ael y Bryn (Brymbo)
- Stryd y Craen (Cefn Mawr)
- Ffordd y Glofa (Pwll y Waun oddi ar Ffordd y Glofa – y Waun)
- Stryt Fawr (Coedpoeth)
- Stryt Fawr (Glyn Ceiriog)
- Ffordd yr Eglwys (Owrtyn)
- Stryt y Capel (Ponciau)
- Park Street (Rhosddu)
- Pentre Felin (Rhosllannerchrugog)
- Stryd yr Ysgol (Rhosllanerchrugog)
- Stryt y Farchnad (Rhosllannerchrugog)
- Ffordd yr Orsaf (Rhostyllen)
- Stryd y Capel (Rhosymedre)
- Stryt Fawr (Rhosymedre)
- Ffordd yr Orsaf (Yr Orsedd)
- Lôn Maes y Llan (Rhiwabon)
- Gorsaf Rhiwabon (Rhiwabon)
- Top Road (Brynhyfryd)
- Ffordd Erddig (Wrecsam)
- Ffordd Fictoria (Wrecsam)
- Ffordd Manley (Wrecsam)
- Maes Parcio Whitegate (Wrecsam)
- Llyfrgell y Rhos (Rhos)
Yn ei adroddiad i’r Cynghorwyr, mae’r Cefnogwr yr Hinsawdd, y Cyng. David A Bithell, yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn pum prif thema:
- Adeiladau ac Ynni
- Cludiant a Symudedd
- Defnydd Tir ac Isadeiledd Gwyrdd
- Caffael (sut rydym ni’n archebu ein nwyddau a’n gwasanaethau)
- Dylanwadu a galluogi newid
Mae uwch swyddogion wedi’u henwebu i arwain bob thema i sicrhau bod datgarboneiddio yn cael ei gynnwys ym mhopeth a wnawn ac i oruchwylio’r cynnydd.
Rydym ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid a newydd gyhoeddi ein menter Pum Cymuned Carbon Isel, a byddwn yn gweithio’n agos yn ystod y flwyddyn nesaf a mwy i weld pa effaith a gaiff gweithgarwch cyson a chymunedol. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn sefydlu gweithgor ac yn dechrau cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned i ddylunio cynllun cymunedol carbon isel ar gyfer pob ardal.
Meddai’r Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Heb os nac oni bai mae swyddogion wedi bod yn gweithio’n galed iawn i fwrw ymlaen â’r gwaith yma ar draws y Cyngor ac yn y gymuned drwy’r prosiectau sydd wedi’u cwblhau neu yn yr arfaeth.
“Ni fydd cyrraedd ein targed i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn hawdd, ond mae’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma yn dangos bod ein hymrwymiad yn cynyddu. Gyda hyd yn oed mwy o gefnogaeth ac addysg gymunedol ar y gweill, mae’r dyfodol yn edrych yn dda.”
“Rydw i’n edrych ymlaen at gyflwyno’r arddodiad ddydd Mercher.”
Gallwch wylio gweddarllediad y Pwyllgor Craffu Cartrefi a’r Amgylchedd ar-lein neu ddarllen yr adroddiad.