Mae’r cynlluniau wedi eu cymeradwyo a’r nawdd yn barod – golyga hynny y gellir cychwyn gweithio ar chweched dosbarth newydd sbon yn Ysgol Morgan Llwyd!
Y Cynghorydd Andy Williams, Maer Wrecsam wnaeth ‘dorri’r dywarchen’ yn swyddogol ynghyd ag Aled Roberts, Cadeirydd y Llywodraethwyr ac Eleri Lewis, y Pennaeth.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn croesawu cam ymlaen i’r ysgol.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae hyn yn rhan o’n ymrwymiad parhaol i wella awyrgylch addysgu i ddisgyblion a staff ac rwyf yn gwybod y caiff ei werthfawrogi’n helaeth ganddynt. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i ysgolion Wrecsam ac i’r swyddogion cwrs am eu gwaith caled wrth ddod o hyd i nawdd.”
Bydd yr adeilad newydd yn golygu y bydd lle gwag yn yr ysgol yn barod am fuddsoddiad pellach er mwyn cynyddu llefydd addysg uwchradd i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.
Bydd yr adeilad newydd yn costio £1.55 miliwn a chaiff ei ariannu gan Band A Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.
Caiff y gwaith ei gwblhau gan Read Construction o Wrecsam ac mae wedi ei raglennu i fod yn barod erbyn diwedd 2019.
Meddai Richard Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr Read: “Mae Read yn falch iawn o gwblhau cynllun arall â Chyngor Wrecsam i ddarparu awyrgylch addysgu’r 21ain ganrif. Byddwn yn cydweithio â’r ysgol a’r gymuned trwy gydol y gwaith er mwyn lleihau unrhyw amhariad, a chynyddu’r gwerth cymdeithasol.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB