Dydd Gwener, 27 Ionawr yw Diwrnod Cofio’r Holocost. Ar y diwrnod hwn, mae gofyn i ni gymryd ennyd i dalu teyrnged i’r rhai a gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad ar draws y byd.

Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym ni’n falch o fod yn dref amrywiol iawn, a byddwn bob amser yn herio pob ffurf ar anghydraddoldeb ac annynoldeb.”

“Mae’n bwysig nad ydym ni byth yn anghofio erchyllterau’r Holocost, ac mae atgofion amserol fel Diwrnod cofio’r Holocost yn holl bwysig i ni beidio anghofio trychinebau’r gorffennol.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol  Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts:“Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, rydym yn cymryd amser i gofio’r miliynau o bobl a laddwyd yn ystod yr Holocost o dan erledigaeth y Nazi’s, yn ogystal â’r hil-ladd a fu’n digwydd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia ac Darfur. Bydd oleuo Neuadd y Dref yn dangos ein bod yn cofio’r dioddefwyr ac ni anghofiwyd nhw.

Fedrwch ddarganfod mwy o wybodaeth am Ddiwrnod Cofio’r Holocost drwy ymweld â’r wefan.