Mae staff a phlant ym Meithrinfa Ddydd Caego yn Wrecsam yn hapus iawn ar ôl clywed y newyddion eu bod wedi derbyn Gwobr Genedlaethol y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r wobr yn golygu eu bod wedi llwyddo i ddangos eu bod wedi cyflawni camau gweithredu sy’n ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd gan gynnwys maeth ac iechyd y geg, gweithgaredd corfforol, chwarae egnïol, iechyd meddwl ac emosiynol, lles a pherthnasoedd, yr amgylchedd, diogelwch, hylendid ac iechyd a lles yn y gweithle.
Hefyd maent wedi ennill gwobr “Boliau Bach” fel cydnabyddiaeth o’r bwyd gaiff ei weini yn y feithrinfa. Mae ganddynt fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dywedodd Nerys Bennion, Swyddog Cyn-Ysgolion Iach Cyngor Wrecsam:
“Mae Meithrinfa Ddydd Caego wedi dangos fod iechyd a lles cyffredinol plant a staff ar frig yr agenda. Mae amgylchedd y feithrinfa yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan. Maent wedi croesawu pob menter sydd ar gael i wella iechyd a lles y feithrinfa i sicrhau fod y profiad i’r staff a’r plant yn hynod o arbennig. Rwy’n siŵr y byddant yn parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”
Dywedodd Gemma Walsh, Goruchwyliwr y Feithrinfa:
“Rydym yn credu fod y cynllun hwn wedi bod o fudd i’r staff a’r plant drwy ddod â’r holl wybodaeth ynghyd. Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant hwn ac eisiau diolch i Nerys Bennion am ei chefnogaeth drwy gydol y cyfnod.”
Yn y llun mae (chwith-dde) Jac Cain, Dyfan Jones, Lilyanna Forrestor, Bertie Mills, Gemma Walsh, Barney Evans
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI