Rydym ni’n cefnogi’r Llynges Fasnachol ar 3 Medi drwy chwifio’r Faner Goch i anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr sydd wddi gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol yn ystod y ddau ryfel byd, ac sy’n parhau i wasanaethu, i sicrhau bod gennym gyflenwadau i gadw ein cenedl ynys i fynd.
Gwelodd y Llynges Fasnachol ei hanafusion cyntaf yn yr Ail Ryfel Byd pan gafodd yr S.S. Athenia, llong fasnach ei tharo â thorpido gan golli 128 o deithwyr a chriw oriau’n unig ar ôl i’r rhyfela gael ei ddatgan. Ers hynny mae 3 Medi wedi’i gydnabod fel Diwrnod y Llynges Fasnachol.
Yn anffodus, nid y colledion o suddo’r Athenia fyddai’r cyntaf, a byddai cannoedd o longau a miloedd o forwyr yn cyrraedd yr un diwedd yn y blynyddoedd i ddod.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Fel “cenedl ynys” mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges fasnachol am 95% o’n mewnforion, gan gynnwys hanner y bwyd a fwytawn. Mae gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% o’n hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo o borthladdoedd y DU, gyda rhai ohonynt yn cefnogi’r ymgyrch i annog llongau sy’n ymweld i ganu eu cyrn am 10am ar 3 Medi.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog:
“Mae llawer ohonoch wedi neu yn dal i wasanaethu gyda’r Llynges Fasnachol. Mae eich gwasanaeth ffyddlon yn deyrnged i’r gwasanaeth a’r cyfraniad anhygoel rydych yn ei wneud i’r economi genedlaethol. Ar y diwrnod hwn bob blwyddyn rydym yn talu teyrnged iddynt a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch i bawb sydd wedi neu sydd yn gwasanaethu gyda’r Llynges Fasnachol ar hyn o bryd. ”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI