Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Monitro Safonau Iaith Gymraeg yn ddiweddar a oedd yn cynnwys paragraff anghywir ynglŷn â’r ymosodiad seiber ar swyddfa Comisiynydd Y Gymraeg mis Rhagfyr diwethaf.
Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 8 Mehefin.
Yn ôl yr adroddiad cafodd yr ymosodiad effaith sylweddol ar gyfathrebu yn eu swyddfa tan yn ddiweddar. Roedd y wybodaeth yma’n anghywir ac mae’r Comisiynydd wedi gofyn i ni gywiro hyn ac rydym yn hapus i wneud hynny ac yn ymddiheuro am y camgymeriad hwn.
Maen nhw wedi gofyn i ni dynnu sylw at
“Roedd Swyddfa Comisiynydd Y Gymraeg yn destun ymosodiad seiber ar 10 Rhagfyr a gafodd effaith sylweddol ar ein gweithrediadau. Roedd ein holl gyfathrebiadau cyfryngau cymdeithasol yn weithredol trwy gydol hynny a heb eu heffeithio gan yr ymosodiad. Yn ogystal, trwy ymroddiad ein staff a chefnogaeth ein hasiantaethau allanol roedd ein gwasanaethau e-bost a ffôn yn weithredol cyn y Nadolig. Dyma hynny’n sicrhau mai dim ond effaith tymor byr y cafodd yr ymosodiad ar ein cyfathrebu allanol.”
Yn y cyfarfod fe benderfynodd aelodau’r Bwrdd:
I gymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2020/21.
Rhesymau dros y penderfyniadau
(i) I sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o ran yr Iaith Gymraeg fel yr amlinellir yn y Safonau Iaith Gymraeg.
(ii) I alluogi cyhoeddi Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg ar gyfer 2020/21 ar ei wefan fel sy’n ofynnol gan y Comisiynydd Iaith ac yn unol â Safonau 158, 164 a 170.
Bydd cofnodion y cyfarfod hynny, a ystyrir ym mis Gorffennaf, yn cyfeirio at y camgymeriad ac yn cywiro’r paragraff perthnasol.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, unigolion a sefydliadau ar draws Wrecsam a Chymru i hyrwyddo a chefnogi’r iaith Gymraeg a nod Llywodraeth Cymru i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.