Ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio’n raddol ac yn dilyn ymateb ardderchog masnachwyr a chyhoedd Wrecsam fel ei gilydd, rydym wrthi’n cynllunio i ailagor masnach min nos yn Wrecsam wrth i nifer o dafarndai baratoi i agor gerddi cwrw a mannau awyr agored.
Mae busnesau eraill yn paratoi i ailagor ar 3 Awst pan mae disgwyl iddynt gael agor eu drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ers mis Mawrth, ar yr amod fod yr achosion o Coronafeirws yn parhau i ddisgyn.
Fel popeth ers pandemig Coronafeirws, bydd datgloi’r gwasanaethau yn digwydd gyda diogelwch y cyhoedd a staff mewn golwg, ac fe fyddwn yn gweithio gyda masnachwyr i sicrhau y gallant elwa o ffordd wahanol o weithio wrth ddarparu’r gwasanaeth y mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl.
Ni fydd popeth yn agor ar unwaith ac fe’ch cynghorir i wirio fod yr eiddo ar agor cyn i chi fynd rhag ofn y bydd rhaid i chi archebu bwrdd, ac efallai y bydd yna gyfyngder amser am faint y gallwch chi aros yno. Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith hefyd.
Rydym ni hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio yn Stryd Fawr Wrecsam ac rydym ni’n cynnig ei chau i draffig o’r Wynnstay at Old No 7 Bar and Grill rhwng 6pm a 6am (bydd mynediad i Eglwys San Silyn a cherbydau argyfwng yn cael ei gynnal bob amser), a gosod byrddau a chadeiriau ar y palmentydd llydan er mwyn i bobl fwynhau eu hunain a bod yn ddiogel yn yr awyr agored a chefnogi masnachwyr lleol a rhoi ymdeimlad cosmopolitaidd.
Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd rhaid i landlordiaid wneud cais am drwyddedau palmant (caffi stryd) a rhoi arferion diogel ar waith megis diogelwch i sicrhau fod pawb yn aros yn ddiogel.
Fe fydd angen archebu bwrdd hefyd a bydd gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
Mae yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yng nghanol y dref wedi’i wahardd fel rhan o Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, ond mae yfed mewn tafarndai ac o fewn ffiniau caffis stryd yn cael ei ganiatáu.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd: “Mae hi’n gyfnod heriol iawn i fusnesau ac er mwyn helpu Wrecsam i ailagor am fusnes eto, diogelwch yw blaenoriaeth pawb. Bydd y stryd fawr yn edrych yn wahanol iawn os bydd y cynigion yn cael eu caniatáu ac rydym ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn dychwelyd i’r economi min nos ac yn cefnogi’r busnesau hynny sydd wedi cael eu taro’n ddrwg gan y cyfnod clo.
“Mae staff canol y dref a gwasanaeth Strydwedd wedi bod yn gweithio’n galed yn ddiweddar i roi mesurau ar waith i sicrhau fod yr ardal yn edrych yn dda tra’n cadw diogelwch pawb yng nghanol y dref mewn golwg, ac fe hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i ganol y dref. Bydd staff y Cyngor a swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wrth law i helpu a chynghori ac i wneud i’r stryd fawr edrych yn wahanol yn barod i groesawu ymwelwyr min nos”.
“Fe hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fasnachwyr am eu gwaith caled a’u hannog i ymgysylltu â ni wrth i ni symud ymlaen i ailagor busnesau yn Wrecsam yn ddiogel.
“Ein neges yw bod Wrecsam yn ailagor busnesau yn ddiogel i fasnachu ac mae gennym lawer i wneud dros yr wythnosau a misoedd nesaf i sicrhau ei fod yn aros yn ddiogel.”
Dywedodd Arolygydd Tref Wrecsam, Vic Powell: “Dwi’n dymuno pob lwc i dafarndai wrth iddynt ailagor â chyfyngiadau. Rwy’n gofyn i ddeiliaid trwyddedu sicrhau fod eu trefniadau yn unol â chyngor a chanllawiau Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol. Bydd swyddogion ar batrôl yn lleol gyda swyddogion o dimau Trwyddedu a Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a byddwn yn talu sylw i wirio bod tafarndai yn cefnogi ac yn cydymffurfio. Fe hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses ailagor am eu gwaith yn cynllunio a chydymffurfio â’r rheoliadau a deddfwriaeth. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid i sicrhau fod yr ailagor yn ddigwyddiad diogel a chadarnhaol.”
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN