Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Paratowch i wlychu a baeddu – mae’r Diwrnod Chwarae yn ôl!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Paratowch i wlychu a baeddu – mae’r Diwrnod Chwarae yn ôl!
ArallPobl a lle

Paratowch i wlychu a baeddu – mae’r Diwrnod Chwarae yn ôl!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 13, 2018 1:05 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Playday
RHANNU

Gobeithio bod gennych ddillad sbâr yn barod, oherwydd mae Diwrnod Chwarae Wrecsam yn ôl ac mae’n addo bod yn llwyddiant ysgubol.

Cynnwys
  • Mwy a Gwell
  • Cadwch eich waledi

Mwy a Gwell

Daeth dros 3,000 o bobl i’r digwyddiad y llynedd, a’r tro hwn y nod yw bod yn fwy a gwell fyth.

Cynhelir y digwyddiad llawn hwyl yng nghanol tref Wrecsam ddydd Mercher, 1 Awst rhwng 12pm a 4pm. Mae croeso i bobl o bob oed felly dewch â’ch plant, chwiorydd, mamau, brodyr, a neiniau a mynd amdani!

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni ar-lein

Cadwch eich waledi

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond gofynnwn i chi ddod â gwên, agwedd chwareus, ac ychydig o ddillad nad oes ots os ydynt yn baeddu.

Daw’r digwyddiad fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan plant ar draws y fwrdeistref sirol ddigon o amser, lle a hawl i chwarae, ac mae’n cael ei gynnal ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol.

Dywed y Cynghorydd William Baldwin, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Mae’r pleser pur y mae’r plant yn ei gael o’r diwrnod hwn yn bleser i’w weld. Cannoedd o blant yn gwneud beth mae plant eisiau ei wneud: gwneud llanast a chael hwyl.

“Mae bob amser yn codi’r ysbryd i’w gweld yn chwarae, heb unrhyw beth yn eu poeni.”

Bydd eich hoff ddigwyddiadau yn dychwelyd, fel y pwll tywod anferth, sleid ddŵr, chwarae â sothach a siglenni rhaff. Roedd y picnics yn boblogaidd y llynedd, ond yn sicr bydd rhywbeth sy’n addas i bawb.

Felly dewch draw a chreu atgofion yn ystod gwyliau’r haf. Cewch ragor o wybodaeth yma, ac mae galeri o luniau digwyddiad y llynedd hefyd

Welwn ni chi yno!

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae cwpan y byd yn dod i Tŷ Pawb... Mae cwpan y byd yn dod i Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf Newyddion gwych i ganol y dref diolch i’r Loteri Genedlaethol Newyddion gwych i ganol y dref diolch i’r Loteri Genedlaethol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English