Mae syniad ar gyfer atyniad parc antur amlddefnydd newydd yn cael ei ystyried ar gyfer cyn safle’r domen Wilderness yng Ngresffordd, Wrecsam.
Mae ‘Go Below’, cwmni presennol a leolir ym Metws-y-Coed, yn gweithio ar gynlluniau i ddatblygu’r safle yn atyniad cyrchfan gan gynnwys un o’r gwifrau gwib cyflymaf yn y DU, tŵr, siglen fenter a nifer o weithgareddau awyr agored eraill.
Roedd gan y safle, gynt o dan berchnogaeth yr Awdurdod Lleol ganiatâd cynllunio ar gyfer llethr sgïo, ond roedd cynlluniau ar gyfer y llethr wedi disgyn drwodd, mae Go Below – cwmni antur arweiniol yng Ngogledd Cymru – yn edrych ar y cysyniad o ddatblygu’r tir fel parc antur.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r cynnig yn parhau’n amodol ar gytuno ar delerau ar gyfer les posibl a derbyn caniatâd cynllunio.
Wrth siarad am y datblygiad, dywedodd Miles Moulding, Rheolwr Gyfarwyddwr Go Below;
“Rydym yn gyffrous iawn am y rhagolygon ar gyfer datblygu’r parc antur yn y safle hwn a gyda’r safle o fewn cyrraedd hawdd i Ogledd a Chanolbarth Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, rydym yn gweld hyn fel cyfle i ddatblygu’r cynnig cyrchfan twristiaeth yma yn Wrecsam.
Rydym yn rhagweld y byddai yna bwll glo artiffisial i bobl archwilio, tŵr dringo, siglen fawr, gwifrau a thraciau i ieuenctid reidio o amgylch mewn cerbydau bach trydan. Byddai yna faes parcio bach, adeilad derbyn, ystafell offer ac ati i gefnogi hyn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweniol am Datblygrwydd Economaidd ac Adfywio:
“Mae gan y prosiect hwn y potensial i gefnogi’r twf cyflym yn economi twristiaeth Bwrdeistef Sirol Wrecsam, drwy greu swyddi ac ymwelwyr yn gwario. Mae Gogledd Cymru yn gyffredinol wedi datblygu enw da fel cyrchfan antur y DU ac yma yn Wrecsam rydym bob amser yn edrych ar gefnogi buddsoddiad mewnol sydd â’r potensial i ddatblygu ein heconomi leol a chynnig twristiaeth ymhellach.
“Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn y cais cynllunio llawn os bydd y prosiect yn datblygu, yn ddiweddarach eleni a’r cyfle i weithio gyda Miles a’r tîm yn Go Below i’w cefnogi gymaint â phosibl.”
Y cam nesaf yw mynd drwy gyfnod o amser ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a chynnwys adborth yn y cynnig cyn belled ag y bydd hynny’n ymarferol.
Mae digwyddiad galw heibio wedi’i drefnu i unrhyw un â diddordeb mewn gwybod mwy am y digwyddiad ddydd Gwener nesaf, 13 Ebrill rhwng 6.30pm – 9pm yng Nghlwb y Glofa, Gresffordd.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU