Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnig parcio am ddim yn ei feysydd parcio ddydd Sadwrn yma, 30 Tachwedd, a bob dydd Sadwrn yn ystod mis Rhagfyr.
Y nod yw annog pobl i ymweld â chanol y ddinas cyn ac yn ystod cyfnod y Nadolig – gan helpu i gefnogi busnesau lleol.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Gwyddwn fod y Nadolig yn amser pwysig ar gyfer y diwydiant manwerthu a hamdden, ac rydym yn falch iawn o allu cynnig parcio am ddim ar ddyddiau Sadwrn dros yr wythnosau nesaf.
“Mae gan Wrecsam cymaint i’w gynnig, ac rydym eisiau cefnogi busnesau lleol trwy annog pobl i siopa a threulio amser hamdden yn y ddinas.
“Mae pawb yn gwybod fod y Cynghorau yn wynebu heriau ariannol anferth ar hyn o bryd, ac er nad allwn fforddio cynnig parcio am ddim bob diwrnod, gallwn fforddio ei gynnig am bum dydd Sadwrn o 30 Tachwedd hyd at ddiwedd Rhagfyr.
“Buaswn yn annog pawb i gymryd mantais a dod i ganol tref Wrecsam cyn ac yn ystod cyfnod y Nadolig, a helpu i gefnogi ein heconomi lleol.”
Pa feysydd parcio sydd wedi’u cynnwys?
Bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio’r Cyngor (ac eithrio Tŷ Pawb) ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd
- Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr
- Dydd Sadwrn, 14 Rhagfyr
- Dydd Sadwrn, 21 Rhagfyr
- Dydd Sadwrn, 28 Rhagfyr
Mae meysydd parcio’r Cyngor yn cynnwys:
- Canolfan Byd Dŵr
- Llyfrgell Wrecsam
- Cilgant San Siôr
- Ffordd y Cilgant
- San Silyn
Sylwch nad yw maes parcio Tŷ Pawb wedi’i gynnwys yn y cynnig hwn – bydd ffioedd parcio arferol yn gymwys yn Tŷ Pawb.