Bydd pobl sy’n hoffi bwyd a’u teuluoedd yn tyrru i ganol y dref y penwythnos hwn gan fod Gŵyl Fwyd Wrecsam yn cael ei chynnal yn Llwyn Isaf.
Mae’r trefnwyr wedi addo digwyddiad “mwy a gwell nag erioed” ac mae’r newyddion bod 75 o arddangoswyr yn dangos eu cynnyrch ynghyd ag arddangosiadau coginio gan gogyddion lleol a rhanbarthol a llawer o adloniant cerddorol i’r teulu cyfan fwynhau yn siŵr o roi gwên ar wynebau ymwelwyr.
Bydd meysydd parcio canol y dref am ddim ar gyfer y digwyddiad eto eleni gan gynnwys Tŷ Pawb ond nid Neuadd Y Dref fydd ynghau i’r cyhoedd am ddeuddydd.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn falch o allu cynnig parcio am ddim ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cefnogi mentrau lleol fel hyn mewn ffordd fydd yn eu helpu yn ymarferol, yn yr achos hwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i fynychu heb orfod dod o hyd i arian ar gyfer parcio. Rwy’n dymuno pob lwc i’r trefnwyr ar gyfer digwyddiad llwyddiannus iawn ac yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r penwythnos.”
Gallwch gael tocynnau a golwg ar eu gwefan yma
Mae’r Ŵyl Fwyd yn cael ei threfnu gan Bartneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam, sefydliad dim er elw sy’n cynnwys pobl â’r un meddylfryd sy’n cynrychioli Sir Wrecsam fel cyrchfan twristiaeth.
Tocynnau ar y diwrnod yn £4 i oedolion a £2 i blant, a phlant o dan wyth oed am ddim. Mae yna docynnau ar werth ar y wefan uchod a thocyn deuddydd arbennig i unrhyw un sy’n dymuno ymweld ar y ddau ddiwrnod.
Mae’n dechrau ddydd Sadwrn, 22ain o 10am a daw’r diwrnod i ben tua 8.50pm gydag thân gwyllt. Ar y dydd Sul, 23ain cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 6pm.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION