Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio am Ddim ar gyfer Gŵyl Fwyd y Penwythnos hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Parcio am Ddim ar gyfer Gŵyl Fwyd y Penwythnos hwn
ArallPobl a lle

Parcio am Ddim ar gyfer Gŵyl Fwyd y Penwythnos hwn

Diweddarwyd diwethaf: Medi 17, 2018 3:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Parcio am Ddim ar gyfer Gŵyl Fwyd y Penwythnos hwn
RHANNU

Bydd pobl sy’n hoffi bwyd a’u teuluoedd yn tyrru i ganol y dref y penwythnos hwn gan fod Gŵyl Fwyd Wrecsam yn cael ei chynnal yn Llwyn Isaf.

Mae’r trefnwyr wedi addo digwyddiad “mwy a gwell nag erioed” ac mae’r newyddion bod 75 o arddangoswyr yn dangos eu cynnyrch ynghyd ag arddangosiadau coginio gan gogyddion lleol a rhanbarthol a llawer o adloniant cerddorol i’r teulu cyfan fwynhau yn siŵr o roi gwên ar wynebau ymwelwyr.

Bydd meysydd parcio canol y dref am ddim ar gyfer y digwyddiad eto eleni gan gynnwys Tŷ Pawb ond nid Neuadd Y Dref fydd ynghau i’r cyhoedd am ddeuddydd.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn falch o allu cynnig parcio am ddim ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cefnogi mentrau lleol fel hyn mewn ffordd fydd yn eu helpu yn ymarferol, yn yr achos hwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i fynychu heb orfod dod o hyd i arian ar gyfer parcio. Rwy’n dymuno pob lwc i’r trefnwyr ar gyfer digwyddiad llwyddiannus iawn ac yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r penwythnos.”

Gallwch gael tocynnau a golwg ar eu gwefan yma

Mae’r Ŵyl Fwyd yn cael ei threfnu gan Bartneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam, sefydliad dim er elw sy’n cynnwys pobl â’r un meddylfryd sy’n cynrychioli Sir Wrecsam fel cyrchfan twristiaeth.

Tocynnau ar y diwrnod yn £4 i oedolion a £2 i blant, a phlant o dan wyth oed am ddim. Mae yna docynnau ar werth ar y wefan uchod a thocyn deuddydd arbennig i unrhyw un sy’n dymuno ymweld ar y ddau ddiwrnod.

Mae’n dechrau ddydd Sadwrn, 22ain o 10am a daw’r diwrnod i ben tua 8.50pm gydag thân gwyllt. Ar y dydd Sul, 23ain cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 6pm.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae myfyrwyr Glyndŵr wedi coginio rhywbeth chwedlonol... Mae myfyrwyr Glyndŵr wedi coginio rhywbeth chwedlonol…
Erthygl nesaf Ffordd newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru Ffordd newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English