Yn dilyn y newyddion y bydd parcio am ddim ar ôl 10am ar gyfer y Diwrnod Chwarae, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd parcio am ddim hefyd ar gael i filoedd ar filoedd o bobl sy’n hoffi bwyd a’u teuluoedd pan fyddant yn heidio i ganol y dref ym mis Medi ar gyfer Gŵyl Fwyd Wrecsam sy’n cael ei chynnal yn Llwyn Isaf 🙂
Cynhelir y digwyddiad ar 7 ac 8 Medi a bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref ond ni fydd hyn yn cynnwys maes parcio aml-lawr Tŷ Pawb.
Mae hyn yn berthnasol ar ôl 10am. Bydd disgwyl i unrhyw un sy’n dymuno parcio cyn 10am dalu i barcio yn unol â ffioedd arferol y maes parcio a bydd y rhain yn cael eu gorfodi’n llym.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae disgwyl i’r digwyddiad eleni fod yn fwy ac yn well nag erioed, gyda dros 75 o gynhyrchwyr bwyd lleol a rhanbarthol, arddangosfeydd gan gogyddion o fwytai lleol, dosbarthiadau coginio, cerddoriaeth fyw ac arddangosfa tân gwyllt.
“Miloedd yn heidio i ganol y dref“
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Ŵyl Fwyd yn golygu y bydd miloedd yn heidio i ganol dref ac rydym yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad hwn sy’n dangos yr oll sydd gan Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos i’w gynnig. Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn bachu ar y cyfle i weld y dref, yn enwedig y sector manwerthu annibynnol rhagorol sydd gennym, a’r holl bethau sydd ar gael iddynt yma yn Wrecsam.
“Hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â sicrhau bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yng nghanol y dref a dymuno’n dda iddynt ar gyfer 2019.”
Dywedodd Alex Jones, un o drefnwyr yr Ŵyl Fwyd, “Diolch yn fawr iawn i Gyngor Wrecsam am y fenter hon, cawsom adborth gwych y llynedd gan y rhai a ddefnyddiodd y cynnig parcio am ddim, ymweld â’r Ŵyl Fwyd ac yna’r dref. Gobeithiwn y bydd yr ŵyl yn rhoi hwb arall i’r economi leol, ac mae unrhyw beth sy’n helpu’r bobl a fydd yn mynychu i gefnogi’r ŵyl a’r dref dros y penwythnos hwnnw yn siŵr o gael ein cefnogaeth ni.”
“Rhoddion Elusennol”
Dywedodd Sam Regan, un arall o drefnwyr yr Ŵyl Fwyd, “Yn dilyn llwyddiant y flwyddyn gyntaf, rydym yn falch iawn o wahodd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ac Yourspace i dderbyn eu rhoddion elusennol yn ystod y digwyddiad eleni.”
“Eleni, rydym yn cefnogi ac yn gweithio gydag Elusen Canolfan Walton, sydd yn bwysig iawn i un aelod o’n tîm gwirfoddol, ond hefyd i lawer iawn o bobl yn Wrecsam a Gogledd Cymru.”
“Caiff y ganolfan ‘Cartref oddi Cartref’ ei darparu gan yr elusen, ar gyfer perthnasau sydd angen rhywle i aros wedi i glaf gael ei anfon i’r ysbyty am driniaeth frys. Darperir llety am ddim yn y ganolfan ‘Cartref oddi Cartref’ i deuluoedd sydd ei angen diolch i gefnogwyr yr elusen. Mae’n costio oddeutu £50,000 y flwyddyn i redeg yr uned.
Unwaith eto, mae Andy Gallanders o Bank St Social yn trefnu’r rhaglen digwyddiadau byw, “Ar ddydd Sadwrn bydd llwyfan Wrexham Lager (safle’r seindorf) yn croesawu cerddorion lleol yn cynnwys y prif berfformwyr, Rhythm Train a’r prif berfformwyr ddydd Sul fydd Coverlovers.
Ychwanegodd Andy, “Braint oedd bod yn rhan o guradu’r adloniant ar gyfer Gŵyl Fwyd Wrecsam am yr ail flwyddyn yn olynol. Nid yn unig yw’r ychwanegiad o barcio am ddim yn wych i’r ŵyl ond mae hefyd yn hwb anferthol i’r dref gyfan, rydym wir yn annog busnesau yn y dref i fanteisio ar hyn!”
Cliciwch yma i weld gwefan yr Ŵyl Fwyd 2019.
“Prisiau Tocynnau”
Bydd tocynnau ar gael ar y diwrnod a gweler y prisiau isod:
Tocyn Dydd – Oedolyn (16+) – £4.00
Tocyn Dydd – Plentyn (8 – 16) – £2.00
Tocyn Dydd – Teulu (2 oedolyn a 3 phlentyn) – £10.00
Tocyn Deuddydd – Oedolyn (16+) – £6.00
Tocyn Deuddydd – Plentyn (8 – 16) – £3.00
Tocyn Deuddydd – Teulu (2 oedolyn a 3 phlentyn) – £15.00
Babanod (o dan 8 oed) – AM DDIM
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION