A ydych chi’n parcio ym Marchnad y Bobl yn Wrecsam yn rheolaidd? A ydych chi’n parcio yno tra byddwch yn y gwaith yn ystod yr wythnos? Neu, a ydych chi’n stopio yno wrth bicio i’r dref wrth siopa ar y penwythnos?
Os felly, bydd gennych ddiddordeb mewn clywed am y newidiadau sydd ar ddod.
O 24 Gorffennaf ymlaen, bydd system “talu ar gerdded” ar waith ym Marchnad y Bobl.
Mi fydd y peiriannau’n derbyn arian parod a chardiau – ac hefyd yn derbyn y darnau £1 newydd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Beth ydi “talu ar gerdded”?
Mae “talu ar gerdded” yn eithaf syml ac mae’n debygol y bydd defnyddwyr wedi’i weld mewn sawl maes parcio arall.
Bydd y system newydd yn rhoi tocyn i ddefnyddwyr wrth iddynt gyrraedd y bariau a bydd angen talu hefo’r tocyn cyn gadael, gan ddefnyddio peiriannau talu wedi’u lleoli ym marchnadfeydd y gogledd a’r de.
Bydd darllenwyr ar ddrysau wrth y grisiau’n sganio’r tocynnau a gawsoch wrth y bariau, sy’n golygu na fydd pobl sydd heb docyn parcio’n gallu defnyddio’r grisiau.
Mae tocynnau parcio tymor ar gael i’r rhai sy’n parcio ym Marchnad y Bobl yn rheolaidd.
“Mwy cyfleus i yrwyr…”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y trefniadau parcio newydd ym Marchnad y Bobl OW yn cael eu cyflwyno mor ddidrafferth â phosib’.
“Wrth i’r system newydd o dalu hefo cerdyn gael ei gosod, bydd y maes parcio ym Marchnad y Bobl OW yn fwy cyfleus i yrwyr ac fe fydd yn golygu na fydd rhaid i’r rhai sydd eisiau parcio eu ceir chwilota am newid mân.
“Mi fydd hefyd yn gwneud y maes parcio’n fwy diogel, gan y bydd llai o arian yn y peiriannau, felly fe fyddan nhw’n llai o darged i fandaliaid.
“Dim ond y rhai sydd wedi parcio yn y maes parcio fydd yn gallu defnyddio’r grisiau hefyd, a fydd yn creu elfen arall sy’n fwy diogel.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI