Y sefyllfa bresennol
Ym mis Medi’r llynedd cafodd terfynau cyflymder o 20mya eu cyflwyno ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru.
Nodau’r cynllun hwn oedd:
- lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol
- annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- helpu i wella ein hiechyd a’n lles
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
Rhwng Ebrill a Gorffennaf eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddent yn cyflawni rhaglen o wrando mewn perthynas â’r polisi 20mya.
Sut fydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn effeithio ar y terfyn cyflymder?
Nid ydym yn disgwyl newidiadau eang i’r terfynau cyflymder presennol. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol o natur targed.
Mae’n annhebygol y bydd unrhyw newidiadau a gynigwn yn dod i rym ar unwaith. Y rheswm dros hyn yw y byddwn angen dilyn gweithdrefnau a gorchmynion traffig statudol. Gall y newidiadau hyn gymryd hyd at chwe mis neu fwy. Hefyd bydd angen gosod profion yn erbyn y canllawiau er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn briodol.
Gwahoddwn breswylwyr i gysylltu â ni trwy ein cyfeiriad e-bost 20mphConsultation@wrexham.gov.uk . Yma gallwch roi eich achos o ran pam eich bod yn credu nad yw ffordd benodol yn gweddu’r terfyn 20mya. Rhaid cael rheswm dros y cais gan na fydd galwadau cyffredinol yn debygol o gymhwyso yn erbyn y profion canllawiau.
Fel awdurdod byddwn yn dibynnu ar ffynhonnell gyllido dynodedig i weithredu unrhyw newidiadau yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldebau dros gludiant strategol: “Mae gweithrediad y cynllun 20mya wedi bod yn ddadleuol, felly rwy’n croesawu rhaglen Llywodraeth Cymru o wrando. Rwy’n gwahodd unrhyw un sydd â phryderon am derfynau 20mya ar ffyrdd yn Wrecsam, i gysylltu â ni trwy’r cyfeiriad e-bost dynodedig, gan roi rhesymau pam ddylai terfynau mewn lleoliadau penodol gael eu diwygio.”