Agorodd Wrecsam ei Barth Cefnogwyr cyntaf erioed neithiwr a gan ei fod yn ddigwyddiad am ddim nid oedd y trefnwyr yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl ar nos Lun yng nghanol y ddinas!
Nid oeddent am gael eu siomi fel y gallwch weld o’r lluniau, cafodd pawb amser gwych. 🙂
Yn Tŷ Pawb roedd dros 500 teulu a ffrindiau wedi ymuno yn ysbryd yr achlysur, roedd y bar a’r safle bwyd yn agored a chafodd pawb amser gwych.
Ar y Stryd Fawr, roedd dros 600 yn y Parth Cefnogwyr i wylio ar sgrîn enfawr oedd i fyny’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan Westy’r Wynnstay.
Roedd yna adloniant byw yn y ddau leoliad cyn ac yn dilyn y gêm oedd yn helpu i gael pawb i hwyliau’r achlysur. Draw yn Tŷ Pawb roedd cerddorion lleol Megan Lee ac Alpha Chino yn perfformio, tra ar y Stryd Fawr roedd gwylwyr wedi cael gwledd gyda bandiau lleol Wrecsam, The Columbians ac The Big Beat yn ogystal â setiau DJ gan y DJ Tony Bear.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Pwynt haeddiannol i Gymru wrth i Bale sgorio’r gôl gyntaf i Gymru mewn gêm Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd. Roedd yr awyrgylch yn Tŷ Pawb yn anhygoel, o ganu’r anthem genedlaethol i’r chwiban olaf, roedd pawb yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd yn digwydd ac roeddech chi’n gallu teimlo’r angerdd tuag at y tîm gwych hwn. Pob lwc i Gymru yn eich gêm nesaf ac fe welwn ni chi naill yn Tŷ Pawb neu ar y stryd fawr os yw’r tywydd yn well.
Hoffwn ddiolch i’r tîm digwyddiadau sydd wedi gweithio’n galed ofnadwy i ddod â’r Parthau Cefnogwyr ffantastig hyn i ni gael eu mwynhau.”