Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam – am noson!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam – am noson!
Pobl a lleY cyngor

Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam – am noson!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 23, 2022 1:22 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Fan Zones
RHANNU

Agorodd Wrecsam ei Barth Cefnogwyr cyntaf erioed neithiwr a gan ei fod yn ddigwyddiad am ddim nid oedd y trefnwyr yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl ar nos Lun yng nghanol y ddinas!

Nid oeddent am gael eu siomi fel y gallwch weld o’r lluniau, cafodd pawb amser gwych. 🙂

Fan Zones
Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam - am noson!
Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam - am noson!
Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam - am noson!
Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam - am noson!
Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam - am noson!
Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam - am noson!
Parthau Cefnogwyr yn Wrecsam - am noson!

Yn Tŷ Pawb roedd dros 500 teulu a ffrindiau wedi ymuno yn ysbryd yr achlysur, roedd y bar a’r safle bwyd yn agored a chafodd pawb amser gwych.

Ar y Stryd Fawr, roedd dros 600 yn y Parth Cefnogwyr i wylio ar sgrîn enfawr oedd i fyny’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan Westy’r Wynnstay.

Roedd yna adloniant byw yn y ddau leoliad cyn ac yn dilyn y gêm oedd yn helpu i gael pawb i hwyliau’r achlysur.   Draw yn Tŷ Pawb roedd cerddorion lleol Megan Lee ac Alpha Chino yn perfformio, tra ar y Stryd Fawr roedd gwylwyr wedi cael gwledd gyda bandiau lleol Wrecsam, The Columbians ac The Big Beat yn ogystal â setiau DJ gan y DJ Tony Bear.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Pwynt haeddiannol i Gymru wrth i Bale sgorio’r gôl gyntaf i Gymru mewn gêm Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd. Roedd yr awyrgylch yn Tŷ Pawb yn anhygoel, o ganu’r anthem genedlaethol i’r chwiban olaf, roedd pawb yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd yn digwydd ac roeddech chi’n gallu teimlo’r angerdd tuag at y tîm gwych hwn.  Pob lwc i Gymru yn eich gêm nesaf ac fe welwn ni chi naill yn Tŷ Pawb neu ar y stryd fawr os yw’r tywydd yn well.

Hoffwn ddiolch i’r tîm digwyddiadau sydd wedi gweithio’n galed ofnadwy i ddod â’r Parthau Cefnogwyr ffantastig hyn i ni gael eu mwynhau.”

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Shopmobility Cadw’n gynnes tra’r ydych yn aros yn Shopmobility Wrecsam!
Erthygl nesaf football fans Gôl!! Mae Maethu Cymru Wrecsam yn ymuno ag ymgyrch ledled y DU i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn ystod Cwpan y Byd.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English