Partneriaeth rheilffordd Caer Amwythig yw un o’r partneriaethau rheilffordd gymunedol yn y DU, ac mae’n anelu i sicrhau bod y gorsafoedd ar hyd llinell Caer – Wrecsam – Amwythig yn cael defnydd da, gyda’r bonws o gadw llygad am fuddion cymunedol.
Sefydlwyd y bartneriaeth yn yr 1990au ac maent yn cyflogi Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol i gyflawni ei chynllun busnes a gweithgareddau. Mae’r Bartneriaeth hefyd yn aelod o Gymdeithas y Partneriaethau Rheilffordd Cymunedol (ACoRP).
Mae Aelodau o’r Bartneriaeth yn cynnwys:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Awdurdod Cynnal)
- Gorllewin Swydd Caer a Chyngor Caer
- Cyngor Swydd Amwythig
- Gwasanaethau Trên Trafnidiaeth Cymru
- Teithio Hafren-Dyfrdwy
- Network Rail
- Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
- Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffyrdd Caer-Amwythig
- Rheilffordd Treftadaeth y Cambrian
Yn ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd yng Ngorsaf Croesoswallt, etholwyd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod arweiniol Trafnidiaeth ac Amgylchedd Cyngor Wrecsam fel Cadeirydd y Bartneriaeth, ac etholwyd Jackie Allen – Cyfarwyddwr Bwrdd Teithio Hafren-Dyfrdwy – yn Is-gadeirydd.
Croesawyd Gwasanaethau Trên Trafnidiaeth Cymru – gweithredwr masnachfraint rheilffyrdd i Gymru – i’r Bartneriaeth yn ystod y cyfarfod.
Croesawodd y Cynghorydd Bithell Trafnidiaeth Cymru i’r Bartneriaeth, gan ddweud: “Mae’r Bartneriaeth nawr yn camu i gyfnod newydd, ac rydym wedi cael hwb gan frwdfrydedd ac ymrwymiad Gwasanaethau Trên Trafnidiaeth Cymru i’r Rheilffordd Gymunedol.
“Bydd ein cynllun busnes ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn sicrhau bod ein gorsafoedd yn borth i’r ardal a byddwn yn gweithio gydag amryw bartneriaid i gyflawni’r rhain.”
Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, aeth aelodau ar ymweliad diweddar i Orsaf Gobowen, i weld drostynt eu hunain y gwaith sy’n cael ei gynnal yno gan Ymddiriedolaeth Adeiladu Gorsafoedd Croesoswallt, Teithio Hafren-Dyfrdwy a’r Bartneriaeth Rheilffyrdd.
Prynwyd yr adeiladau yn yr orsaf gan yr Ymddiriedolaeth ddwy flynedd yn ôl, fel rhan o gynllun Hawl i Fidio Cymunedol, gyda’r bwriad o’u gadw fel ased cymunedol.
Gwelodd yr Aelodau y gwaith a gynhaliwyd ar yr uned wag ar Blatfform 2 yn Gobowen, gan gynnwys gosod system gwresogi o’r aer. Esboniodd Roger Date o’r Ymddiriedolaeth, y byddai cam nesaf y gwaith adfer yn canolbwyntio ar ail rendro’r adeilad, a bod yr Ymddiriedolaeth yn chwilio am ffynonellau posib o nawdd.
Rhoddodd Mr Date fanylion y cynnig i redeg gwasanaeth Rheilffordd Cymunedol o Orsaf Gobowen yn uniongyrchol i’r Ysbyty Orthopedig, a fyddai o gymorth i ymwelwyr i’r ysbyty.
Mae’r swyddfa docynnau yn Gobowen yn cael ei rhedeg gan y cwmni dielw Teithio Hafren-Dyfrdwy, a dangosodd gynrychiolwyr gynlluniau’r ailwampio’r ystafell aros a’r caffi i aelodau’r Bartneriaeth, sydd wedi’i ariannu drwy gyfres o grantiau, gan gynnwys cais llwyddiannus am grant gan Gronfa Her Gwasanaethau Trên Trafnidiaeth Cymru.
<i>I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, <a href=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy” target=”_blank” rel=”noopener noreferrer”>cliciwch yma</a></i>
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN