Mae elusen Cycling 4 All yn Wrecsam, sy’n darparu gwasanaeth beicio i bob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, yn cynnal “Parêd Pŵer Pedlo” yn ystod wythnos feics ar 10-16 Mehefin 2024, diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.
Mae’r Parêd Pŵer Pedlo yn llwybr o feics wedi’u harddangos o gwmpas y parc, wedi’u haddurno gan grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion a busnesau lleol. Nod y parêd yw dod â’r gymuned at ei gilydd i gerdded neu feicio, a darganfod yr holl feics sydd wedi’u gweddnewid. Y bwriad yw gwella lles pobl a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a chludiant cynaliadwy. Y cyfle perffaith i fynd allan i’r awyr iach a bod yn egnïol, gan ddathlu a chefnogi creadigrwydd a chysylltu gydag eraill yn y gymuned.
Bydd Cycling 4 All yn gweithio gydag elusennau partner Refurbs a Groundwork Gogledd Cymru i gael gafael ar feics nad oes modd eu hailwampio neu eu hailddefnyddio er mwyn eu defnyddio ar gyfer y parêd, gan leihau gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi.
Meddai Hanna Clarke, Arweinydd Prosiect Parêd Pŵer Pedlo: “Rydym ni’n edrych ymlaen at weld y gymuned yn dangos ei chreadigrwydd ac yn addurno beics a fyddai fel arall wedi’u hanfon i safleoedd tirlenwi. Bydd y Parêd Pŵer Pedlo yn gyfle cyffrous i hyrwyddo’r angen am ailddefnyddio a chynaliadwyedd yn ein cymunedau; cyfle i’r gymuned ddathlu a chefnogi creadigrwydd a mynd allan a bod yn egnïol.
Gwahoddir grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion a busnesau i addurno beic gan ymgorffori’r neges o ailddefnyddio a chynaliadwyedd. Gallwch gymryd rhan ac addurno beic yn rhad ac am ddim; gall busnesau sydd eisiau cymryd rhan wneud cyfraniad i’r prosiect Pŵer Pedlo os ydynt yn dymuno.
Sut mae cymryd rhan yn y Parêd Pŵer Pedlo?
Yn ogystal â gofyn i grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion a busnesau i addurno beics, bydd sawl gweithdy cymunedol yn cael ei gynnal i bobl alw heibio a helpu i addurno beics ar gyfer y parêd.
- Clwb Celf Teuluol Tŷ Pawb Dydd Sadwrn 18 Mai 10am – 12pm
- Parc Gwledig Dyfroedd Alun Dydd Mawrth 28 Mai 11am – 2pm
- Parc Gwledig Dyfroedd Alun Dydd Iau 30 Mai 11am – 2pm
I weld sut fedrwch chi gymryd rhan ac addurno beic, cysylltwch â Hanna ar 01978 757524 neu hanna.clarke@cycling4all.org.
Mae’r Parêd Pŵer Pedlo yn bosibl diolch i nawdd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chefnogaeth Cadwyn Clwyd, AVOW a Chyngor Wrecsam.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Peidiwch â methu’r cyfle i gael dweud eich dweud am ein gwasanaethau ar-lein
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch