Teimlo’n gyffroes am gêm Cymru yn erbyn Trinidad a Tobago? Eisiau creu’r awyrgylch y penwythnos hwn cyn y gêm? Da chi mwn lwc!
Er mwyn dathlu casgliad ein gwlad o dalent pêl-droed rhyngwladol yn Wrecsam, ma’ gan yrra amgueddfa’n nifer o arddangosiadau pêl-droed hanesyddol Cymreig.
Edrychwch ar yr hyn y gallwch ddisgwyl ei weld yn ein hamgueddfa leol yn y dyddiau nesaf:
John Charles – Seren Juventus a chyn-flaenwr i dîm pêl-droed Cymru.
Dyma’r crys wnaeth John Charles ei wisgo yn y gêm Cymru yn erbyn Iwerddon mewn gêm gymhwyso Cwpan y Byd yn y Cae Ras ar 8 Mawrth 1950.
• John Charles oedd y chwaraewr tramor cyntaf i gael ei gyflwyno i Oriel Enwogion pêl-droed yr Eidal.
• Llwyddodd Charles i sgorio dros 100 o goliau mewn 5 tymor yn ystod ei gyfnod yn chwarae i Juventus.
Tommy Bamford – Seren Clwb Pêl-Droed Wrecsam
Cafodd y cap hwn ei gyflwyno i ddeiliad record Wrecsam, Tommy Bamford, i nodi ei gamp dros Gymru ar 21 Hydref 1930.
• Yn ystod ei 6 mlynedd yn chwarae i Wrecsam, llwyddodd Bamford i sgorio dros 175 o goliau, sy’n golygu mai ef yw sgoriwr uchaf Wrecsam.
• Ym 1934, aeth i chwarae i Fanceinion gan sgorio 57 o goliau iddyn nhw.
• Ar ôl iddo ymddeol o’i yrfa pêl-droed, dychwelodd Bamford i Wrecsam i weithio mewn gweithfeydd dur lleol.
Gary Speed – Cyn Reolwr Cymru hanesyddol
Ffigwr Tegan
• Yn ogystal ag un o reolwyr mwyaf poblogaidd Cymru, bu Gary Speed hefyd yn gapten tîm pêl-droed Cymru
• Tan yn ddiweddar, roedd Speed yn ail yn unig i’r chwaraewr pêl-droed sydd â’r mwyaf o gapiau i Gymru (fodd bynnag, mae wedi ennill mwy o gapiau i Gymru na’r un chwaraewr allfaes arall)
• Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus gyda Chymru, cafodd Speed yrfa ddisglair gyfer nifer o glybiau poblogaidd eraill:
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN