Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch ȃ cholli allan ar arian hanfodol i grwpiau ar draws Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Peidiwch ȃ cholli allan ar arian hanfodol i grwpiau ar draws Wrecsam
FideoPobl a lleY cyngor

Peidiwch ȃ cholli allan ar arian hanfodol i grwpiau ar draws Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2019/04/17 at 4:40 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Cymrwch olwg ar y ffilm fer hon am fwy o wybodaeth am ein Grant Cynhwysol Cymunedol

Ydych chi’n dymuno sefydlu grŵp newydd i oedolion yn eich cymuned leol?

Allech chi gynnal clwb cinio?

Ydy grŵp rydych yn ei fynychu yn ystyried ehangu?

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Wel, gall y Grant Cynhwysiant Cymunedol eich helpu chi!

Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn helpu i ariannu llawer o wahanol brosiectau a grwpiau i oedolion ar draws Wrecsam.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

O glybiau cinio, Ioga a dosbarthiadau celf i wylio adar a dawnsio llinell. Mae’r grant yn anelu i gefnogi gweithgareddau yn y gymuned i sefydlu neu ehangu grwpiau a chlybiau cinio, swper a brecwast sy’n cefnogi annibyniaeth ac iechyd a lles unigolion sy’n byw yn eu cymuned.

Gellir anfon ceisiadau drwy’r flwyddyn i’w hystyried gan Baneli Grant chwarterol.

Yn dilyn llwyddiant y Grant Cynhwysiant Cymunedol ers 2012, rydym nawr yn ehangu’r meini prawf cymhwysedd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn croesawu ceisiadau gan gynlluniau sy’n cefnogi oedolion hŷn ac oedolion gydag anableddau dysgu a/neu gorfforol a phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â gofalwyr anffurfiol.

Ers 2012 mae’r Grant wedi helpu bron i gant o grwpiau yn y Fwrdeistref Sirol.

Dywedodd Mr Phil Coops, “Mae cyllid o’r Grant Cynhwysiant Cymunedol wedi’i wneud yn bosibl i grwpiau bach gael a gwneud offer a deunydd ar gael i’w defnyddio gan y gymuned gyfan mewn modd nad oedd ar gael o’r blaen. Gallwn nawr helpu’r uwch aelodau yn yr ardal gofio eu blynyddoedd blaenorol a chofio’r gorffennol fyddant yn ei fwynhau.

“Mae’r broses ar gyfer cael y grant yn eithaf syml i’w lywio ac roedd y staff bob amser ar gael i helpu os byddai yna unrhyw broblemau. Fel grŵp, maent wedi bod yn amhrisiadwy yn ein helpu i ymgymryd â’n cais llwyddiannus a phrosiect i’r gymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Ar ôl ymestyn y meini prawf grant mae’r grantiau hyn yn agored i amrywiaeth llawer ehangach o grwpiau cymunedol.

“Mae hwn yn newyddion ardderchog, mae’r grantiau eisoes wedi cefnogi llawer o weithgareddau cymunedol ar draws Wrecsam a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl am sefydlu grŵp cymunedol neu sy’n dymuno datblygu grŵp presennol i gysylltu â’r tîm comisiynu.”

Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer sesiynau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lle gall pobl gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau. Gwahoddir cynigion gan unigolion neu sefydliadau ar gyfer gweithgareddau megis:

  • Cinio gyda chwmni da
  • Rhannu hobïau
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Menter gymdeithasol / gydweithredol

Am ffurflen gais, cysylltwch â:

Commissioning@wrexham.gov.uk

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 scams on your doorstep Galwr Digroeso wedi’i Ddedfrydu
Erthygl nesaf Recycling School Caretaker Dim plant yn unig sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ailgylchu yn yr ysgol yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English