Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwahodd sefydliadau lleol i gynnal gweithdai bwyta’n iach
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwahodd sefydliadau lleol i gynnal gweithdai bwyta’n iach
Pobl a lle

Gwahodd sefydliadau lleol i gynnal gweithdai bwyta’n iach

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 22, 2026 2:35 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Bwydydd gan gynnwys pîn-afal, tomato a phupur ar wyneb gwaith mewn gweithdy bwyd
RHANNU

‘Bwyta’n Well, Arbed Mwy!’

Mae’r Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lansio rhaglen newydd o weithdai bwyta’n iach.

Cynnwys
  • ‘Bwyta’n Well, Arbed Mwy!’
  • Oes modd i’ch sefydliad gynnal gweithdy am ddim?
  • Wedi’i hariannu gan Bartneriaeth Bwyd Wrecsam
  • Beth fydd yn digwydd yn y gweithdai?
  • Addasrwydd lleoliad
  • Cysylltwch â ni

Pwrpas y gweithdai am ddim yw cefnogi trigolion i wella maeth, hyder wrth goginio, a lles cyffredinol.

Oes modd i’ch sefydliad gynnal gweithdy am ddim?

Mae lleoliadau cymunedol, ysgolion a chlybiau ledled y sir yn cael eu gwahodd i gynnal y sesiynau hyn i’w haelodau rhwng Gorffennaf 2026 a Chwefror 2027.

Y bwriad yw sicrhau bod y gweithdai’n agored i bob grŵp oedran (felly nid oes terfynau oedran, cyn belled â bod plant yng nghwmni oedolyn) a bydd maint grwpiau ar gyfer pob sesiwn rhwng 6 a 12 o bobl.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, cadeirydd y gweithgor aelodau a swyddogion ar gyfer costau byw: “Bydd y fenter wych hon yn dod â sesiynau yn uniongyrchol i leoliadau cymunedol, gan wneud addysg maeth yn fwy hygyrch i drigolion a all wedyn ddefnyddio’r wybodaeth honno yn eu bywydau o ddydd i ddydd.”

Wedi’i hariannu gan Bartneriaeth Bwyd Wrecsam

Mae Partneriaeth Bwyd Wrecsam yn ariannu’r rhaglen, sy’n golygu y gellir ei chyflwyno heb unrhyw gost i westeiwyr neu gyfranogwyr.

Gyda phwysau parhaus costau byw, mae llawer o drigolion yn chwilio am ffyrdd ymarferol o ymestyn eu cyllidebau bwyd heb gyfaddawdu ar iechyd.

Nod y gweithdai sydd wedi’u creu yw helpu pobl i arbed arian wrth fwyta’n well; gan gynnig awgrymiadau realistig, fforddiadwy ar gyfer cynllunio a gwneud prydau bob dydd.

Beth fydd yn digwydd yn y gweithdai?

Mae’r rhaglen yn cynnwys dau fath o weithdai:

  • Gweithdy Maeth 1 awr – sesiwn ddifyr, addysgiadol gydag awgrymiadau a chyngor ar gyfer bwyta’n iach ar gyllideb.
  • Sesiwn Goginio Ymarferol 2.5 awr – dosbarth ymarferol lle bydd Deietegwyr Cymunedol y GIG yn tywys cyfranogwyr i baratoi prydau syml, maethlon, cost isel

Bydd pawb sy’n cymryd rhan mewn gweithdy hefyd yn cael bag siopa a llyfr ryseitiau am ddim, i’w helpu nhw i barhau i goginio’n iach gartref.

Addasrwydd lleoliad

Os nad oes gan eich lleoliad gegin lawn i’w defnyddio, peidiwch â phoeni! Bydd angen cyfleusterau golchi dwylo a golchi llestri addas ar y tîm (hefyd byddai mynediad at oergell yn fantais ychwanegol), ond bydd yn darparu unrhyw offer sydd ei angen.

Cysylltwch â ni

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cynnal sesiwn am ddim, cysylltwch â ni drwy e-bostio BCU.NutritionSkillsForLifeEast@wales.nhs.uk


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Cynllun grantiau bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam ar agor ar gyfer ceisiadau

Rhannu
Erthygl flaenorol Groundwork Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint
Erthygl nesaf 243 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi'u gosod ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam 243 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi’u gosod ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English