Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 22, 2026 12:51 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Groundwork
RHANNU

Disgwylir i drigolion yn Wrecsam a Sir y Fflint elwa o raglen newydd o ddosbarthiadau a gweithdai am ddim – sy’n cwmpasu popeth o gyflogadwyedd a sgiliau digidol i goginio iach.

Cynnwys
  • Cyrsiau ar gyfer pob angen
  • Adeiladu ar lwyddiant

Mae Groundwork Gogledd Cymru wedi derbyn contract Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd-ddwyrain Cymru ar ran Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint.

Nod y contract yw cefnogi trigolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint sy’n 19 oed ac yn hŷn i ail-ymgysylltu â’u dysgu, gan helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u dewisiadau cyflogaeth.

Cyrsiau ar gyfer pob angen

Bydd y trefniant dwy flynedd yn golygu y bydd Groundwork yn cyflwyno cyrsiau ar draws y ddwy sir, gan weithio mewn partneriaeth â thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd-ddwyrain Cymru – menter ar y cyd sydd eisoes yn llwyddiannus ac wedi’i hen sefydlu rhwng y ddau gyngor.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr sy’n oedolion gael mynediad at gyrsiau am ddim ar amrywiaeth eang o bynciau.

Bydd “Dysgu fel Teulu” yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion lleol, gan ganiatáu i rieni a gofalwyr roi cynnig ar bethau newydd gyda’u plant – gan gynnwys crefftau a choginio iach.

Rhan bwysig arall o’r rhaglen, yn enwedig gyda thrigolion hŷn yn y gymuned, fydd y cyrsiau TG a sgiliau digidol sydd ar gael. Dywedodd dysgwr a oedd yn bresennol yn y sesiwn ‘Cyflwyniad i Ffonau Clyfar’, “Rwyf wedi dysgu cymaint, mae wedi bod yn wych.  Mae gen i fwy o hyder yn fy ngallu i ddefnyddio’r ffôn erbyn hyn”.

Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol lleol cyfleus, ynghyd â chyrsiau ar sut i goginio gyda ffriwyr aer, sut i ddefnyddio ffonau clyfar, gweithgareddau awyr agored a sgiliau cyflogadwyedd.

Mae’r cyrsiau byr wedi’u cynllunio i weithredu fel sbardun, gan annog pobl i fynd ymlaen i archwilio cyfleoedd dysgu pellach. Dywedodd un o’r cyfranogwyr yn y sesiwn ‘Magu Hyder’, “Dysgais sgiliau newydd ar fynd i’r afael â rhwystrau posib ar gyfer nodau a hunanbarch”.

Adeiladu ar lwyddiant

Mae’r contract newydd yn adeiladu ar y gwaith partneriaeth rhagorol rhwng y tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned a sefydliadau lleol eraill, gan gynnwys Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam, y sector gwirfoddol lleol a grwpiau cymunedol.

Mae’r contract yn elfen hanfodol o’r agenda sgiliau ar gyfer y ddwy sir, a bydd yn helpu i sicrhau bod pobl yn rhai o gymunedau anoddaf eu cyrraedd yn Wrecsam a Sir y Fflint yn cael y cyfle i gael mynediad at ddysgu.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg yn Wrecsam, “Mae sicrhau’r contract hwn yn beth cadarnhaol iawn i gynghorau Wrecsam a Sir y Fflint.

“Mae’n dyst i ba mor dda mae ein partneriaeth yn gweithio, a pha mor hanfodol yw’r cyrsiau sydd ar gynnig i’n cymunedau. 

“Mae’n gyfle da i estyn allan at ragor o ddysgwyr sy’n oedolion sy’n awyddus i symud ymlaen a datblygu eu sgiliau, ac rwy’n croesawu’r newyddion hyn ac yn edrych ymlaen at weld llwyddiant parhaus dysgu oedolion yn y gymuned ar draws y ddwy sir.”

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, “Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a datgloi cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. 

“Rydym yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam a Groundwork Gogledd Cymru i ddarparu ystod eang o gyfleoedd dysgu hygyrch am ddim i drigolion ledled Sir y Fflint.

“P’un a yw rhywun am wella ei sgiliau digidol, cefnogi dysgu ei deulu, rhoi hwb i’w gyflogadwyedd neu roi cynnig ar rywbeth newydd, mae’r cyrsiau hyn yn cynnig llwybr croesawgar yn ôl i addysg. Trwy ddod â dysgu i gymunedau lleol, gallwn helpu i sicrhau bod mwy o drigolion yn cael y cyfle i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.”

Dywedodd Louise Stokes, Pennaeth Hyfforddiant yn Groundwork Gogledd Cymru, “Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid i barhau i ddarparu ein cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned. 

“Bydd y cyllid hwn yn parhau i gryfhau ein gallu i gefnogi oedolion ar draws ein cymunedau, gan eu helpu i ailgydio mewn dysgu gyda hyder a phwrpas. Mae’r effaith yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth; mae’n cryfhau teuluoedd, cymunedau, a lles unigol.”

Os ydych yn byw yn Sir y Fflint a Wrecsam ac yn 19 oed ac yn hŷn, gallwch ddod o hyd i ba gyrsiau sydd ar gael drwy Dysgu Oedolion yn y Gymuned naill ai drwy e-bostio acl@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 07584 335409.

Rhannu
Erthygl flaenorol Diweddariad Mehefin 2026 yn tynnu sylw at waith gorfodi ledled Wrecsam Diweddariad Mehefin 2026 yn tynnu sylw at waith gorfodi ledled Wrecsam
Erthygl nesaf Bwydydd gan gynnwys pîn-afal, tomato a phupur ar wyneb gwaith mewn gweithdy bwyd Gwahodd sefydliadau lleol i gynnal gweithdai bwyta’n iach

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English