Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchwch eich cartonau (Tetra Pak) yn hawdd yn eich blwch ailgylchu gwyrdd/blwch canol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Ailgylchwch eich cartonau (Tetra Pak) yn hawdd yn eich blwch ailgylchu gwyrdd/blwch canol
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Ailgylchwch eich cartonau (Tetra Pak) yn hawdd yn eich blwch ailgylchu gwyrdd/blwch canol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 30, 2026 9:36 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Recycle your cartons (Tetra Pak) easily at the kerbside
RHANNU

Oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu cartonau (a elwir Tetra Pak) yn eich blwch ailgylchu gwyrdd/blwch canol  yn Wrecsam fel rhan o’n gwasanaeth ailgylchu wythnosol?

Cynnwys
  • Pa bethau eraill y gellir eu hailgylchu fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu wythnosol?
    • Plastigau
    • Papurau
    • Gwastraff bwyd

Gallwch roi cartonau yn eich blwch ailgylchu gwyrdd neu flwch olwynion canol. Nid oes gennym y banciau carton/Tetra Pak yn y canolfannau ailgylchu mwyach, felly ailgylchwch eich holl gartonau yn eich blwch ailgylchu gwyrdd neu flwch olwynion canol (gyda’ch plastigau a’ch caniau) fel rhan o’r gwasanaeth wythnosol.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn atgoffa trigolion y gellir ailgylchu cartonau yn hawdd fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu wythnosol. Rhowch eich holl gartonau sudd, llaeth a bwyd yn eich blwch ailgylchu gwyrdd (neu flwch olwynion canol) ochr yn ochr â’ch plastigau a’ch caniau, a byddwn yn eu hailgylchu i chi.”

Pa bethau eraill y gellir eu hailgylchu fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu wythnosol?

Plastigau

Gellir ailgylchu UNRHYW fath o boteli plastig, POB pecyn bwyd plastig, potiau plastig a thybiau plastig fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu wythnosol.

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Potiau iogwrt
  • Tybiau menyn/marjarîn
  • Pecynnau prydau parod
  • Poteli siampŵ
  • Poteli gel cawod
  • Poteli hylif glanhau ystafell ymolchi/cegin (gan gynnwys y rhai chwistrellu)
  • Pecynnau ffrwythau (ond nid y deunydd ffilm neu’r deunydd lapio swigod)
  • Y cynwysyddion clir a ddefnyddir yn aml ar gyfer bwyd Tsieineaidd / Indiaidd
  • Poteli ysgytlaeth
  • Pecynnau cig
  • Tybiau hufen iâ
  • Tybiau siocled mawr (Quality Street, Celebrations ac ati)

Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn lân heb unrhyw weddillion bwyd neu ddiod pan fyddwch chi’n eu hailgylchu.

Papurau

Mae pethau y gellir eu hailgylchu yn eich ailgylchu papur a chardfwrdd ymyl y ffordd yn cynnwys:

  • Papur parsel brown
  • Cardfwrdd
  • Catalogau
  • Cardiau cyfarch heb addurniadau fel gliter neu ffoil
  • Papur llungopïwr
  • Cyfeirlyfrau
  • Amlenni (gyda ffenestri neu hebddynt)
  • Taflenni
  • Cylchgronau
  • Papurau newydd ac atodiadau

Gwastraff bwyd

Rydyn ni’n gwybod y gall fod llawer i’w gofio, ond mae gwybod beth sy’n gallu mynd yn eich cadi bwyd yn ein helpu ni. Mae rhai o’r pethau hyn yn cynnwys:

  • Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi’u coginio
  • Pliciadau ffrwythau – o felon dŵr, orennau, afalau ac ati.
  • Cig a physgod – amrwd ac wedi’u coginio
  • Esgyrn a plisgyn wyau
  • Reis, pasta, grawnfwyd a nwdls
  • Bara, cacennau, toesau a bisgedi
  • Bagiau te a gwaddod coffi
  • Caws, wyau ac iogwrt
  • Ffa, cnau a hadau
  • Bwyd heb ei fwyta o’ch plât
  • Cyllell, ffyrc a llwyau pren

Am restr lawn o bethau y gallwch eu hailgylchu, edrychwch ar ein gwefan.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres mewn tywydd cynnes – Newyddion Cyngor Wrecsam

TAGGED:ailgylchubiniaubinsgwastraffrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Hot weather alert Casgliadau biniau yr wythnos nesaf (27-31 Gorffennaf)
Erthygl nesaf Kidsfest Sŵn mawr i chwedlau bach Big noise for little legends Dydd Sadwrn nesaf: Kidsfest yn dod i Wrecsam ym mis Awst

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English