Rydym wedi cael gwybod am bedleriaid ar garreg drws sy’n gweithio yn ardal Wrecsam.
Maent yn targedu pobl ddiamddiffyn posibl, i geisio gwerthu nwyddau rhad am brisiau uchel a chael eu manylion fel targedau ar gyfer bwrgleriaeth posibl yn y dyfodol.
Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, rydym wedi rhoi gwybodaeth at ei gilydd fel bod trigolion yn ymwybodol, a beth i’w wneud os byddant yn dod o hyd i werthwyr ffug wrth y drws.
Cadw llygad
Maent fel arfer yn ymddangos fel cyn-droseddwyr yn gwerthu nwyddau – cynnyrch glanhau fel arfer – o ddrws i ddrws fel rhan o’u hadsefydliad.
Dylai hynny roi rhybudd ar unwaith – nid yw gwasanaethau adsefydlu yn cynnal y mathau hyn o gynlluniau.
Gallant hefyd gyflwyno rhyw fath o gerdyn adnabod, gyda logo neu deitl rhyw fath o gynllun – ond gellir ffugio’r rhain yn hawdd.
Gall y sawl sy’n ymwneud â sgamiau o’r fath fod yn gyn-droseddwyr, ond yn sicr nid yw’r gwaith yn rhan o’u hadsefydliad. Yn hytrach, mae’n rhoi cyfle iddynt chwilio am gartrefi fel targedau posibl ar gyfer bwrgleriaeth.
Er nad yw’r nwyddau maent yn eu gwerthu yn wael neu’n ddrud, maent yn tueddu i fod yn eitemau rhad a werthir am gostau llawer uwch na’u gwerth.
Gall y twyllwyr hyn fel arfer fod yn ddyfalbarhaus ac yn gwthio wrth geisio gwerthu eu nwyddau ac yn aml byddant yn gofyn llawer o gwestiynau am bwy bynnag wnaeth ateb y drws.
Fel hyn, gallant wybod a yw rhywun yn byw ei hun, pa fath o eitemau sydd ganddynt yn y tŷ a pha fath o ddiogelwch sydd ganddynt.
Beth i’w wneud
Os bydd gwerthwr fel hyn yn dod at eich drws, gallwch gadw eich hun yn ddiogel drwy ddefnyddio’r un rheolau euraidd ag y byddech gydag unrhyw alwr diwahoddiad arall.
Cofiwch nad oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i brynu unrhyw beth gan unrhyw un sy’n dod at garreg y drws. Mae gennych bob hawl i wrthod yn gwrtais a chau’r drws.
Nid oes yn rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau – dywedwch na yn gwrtais.
Caewch y drws arnynt a ffoniwch yr heddlu ar 101 (neu 999 mewn argyfwng). Mae’n werth rhoi gwybod i’r heddlu drwy 101 hyd yn oed os nad oeddent yn bod yn ymosodol gyda chi yn bersonol. Bydd yn gadael i’r heddlu wybod eu bod yn gweithredu yn yr ardal.
Os bydd y galwyr hyn yn cael digon o dai anymatebol mewn un stryd neu gymdogaeth, nid yn unig ni fyddant yn cael y wybodaeth maent eisiau, ond byddant yn gwybod fod pobl yn cadw golwg ac ni fyddant yn tueddu i ddod yn ôl.
Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn fregus i’r math hwn o gynllun eich hun, cadwch olwg am gymdogion neu berthnasau diamddiffyn.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I