Dychmygwch hyn. Does yna ddim rheolau ar gyfer parcio. Fe allwch chi barcio yn unrhyw le, ar unrhyw bryd. Fe allwch chi barcio ble bynnag yr hoffech chi, a hynny am ddim.
Beth fyddai’n digwydd?
Byddai tagfeydd ar y ffyrdd, byddai damweiniau’n digwydd a byddai pobl yn brifo. Byddai unigolion a busnesau’n dioddef, a buan iawn y byddem ni i gyd yn cael llond bol.
Dyma pam fod swyddogion gorfodi yn bobl dda. Iawn… efallai na fyddwch chi’n cytuno os ydych chi wedi cael tocyn parcio erioed, ond maen nhw yno i wneud yn siŵr bod pobl yn dilyn y rheolau ac i atal anrhefn o ran parcio.
Mae ganddyn nhw swydd anodd iawn, ac weithiau mae pobl yn eu cam-drin. Iaith anweddus, sarhad a bygythiadau corfforol hyd yn oed.
Dydi hynny ddim yn deg, a dydi Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid ddim yn fodlon ei oddef – fel y bu i un person ganfod pan aethpwyd â nhw i’r llys yn ddiweddar am fod yn ymosodol tuag at un o’n swyddogion.
Fe’u cafwyd yn euog ac fe gawson nhw ryddhad amodol o 12 mis a gorchymyn i dalu £107 o gostau llys.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Swydd bwysig
Meddai cynrychiolwr ar ran Cyngor Wrecsam:
“Mae swyddogion gorfodi wedi cael effaith gadarnhaol ar ein cymuned, a hebddyn nhw, fe fyddai bywyd yn anodd ac yn rhwystredig iawn i ni oll.
“Maen nhw’n helpu sicrhau bod pobl yn parcio’n synhwyrol ac yn dilyn y rheolau, ac yn gwneud yn siŵr bod traffig yn llifo’n rhydd drwy ganol ein tref.
“Wnawn ni ddim goddef unrhyw un sy’n bod yn ddifrïol tuag at ein swyddogion gorfodi, ac fe wnawn ni bob ymdrech i gysylltu â’r heddlu a’r llysoedd i fynd i’r afael ag ymddygiad ymosodol.
“Felly, da chi, dangoswch barch atyn nhw wrth iddyn nhw wneud eu gwaith. Maen nhw’n chwarae rhan bwysig i gadw canol ein tref yn ddiogel, ac maen nhw’n haeddu cael eu trin gyda pharch a chwrteisi.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH