Ydych chi’n dymuno sefydlu grŵp newydd i oedolion yn eich cymuned leol?
Allech chi gynnal clwb cinio?
Ydi grŵp rydych chi’n mynd iddo yn ystyried ehangu?
Wel, gall y Grant Cynhwysiant Cymunedol eich helpu chi!
Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn helpu i ariannu llawer o wahanol brosiectau a grwpiau i oedolion ar draws Wrecsam. O glybiau cinio, Ioga a dosbarthiadau celf i wylio adar a dawnsio llinell.
Mae’r grant yn anelu i gefnogi gweithgareddau yn y gymuned i sefydlu neu ehangu grwpiau a chlybiau cinio, swper a brecwast sy’n cefnogi annibyniaeth ac iechyd a lles unigolion sy’n byw yn eu cymuned.
Mae rhai sydd wedi derbyn y grant yn y gorffennol yn cynnwys Clwb Garddwyr Springfield a Garddwyr Cymunedol Owrtyn.
Dywedodd Garddwyr Cymunedol Owrtyn, “Mae’r grant wedi ein helpu i ffurfio cysylltiadau cryf ar draws y gymuned gydag aelodau o amryw wahanol grwpiau pentrefi eraill a sefydliadau, e.e. pwyllgor neuadd bentref Owrtyn, Overton Oracle, cyngor cymuned Owrtyn, Sefydliad y Mercher Owrtyn, clwb bowlio Owrtyn, Lleng Brydeinig Owrtyn, Blues and Roots Festival, Ffair y Pentref a busnesau lleol.
Mae wedi ein helpu i ddatblygu’r integreiddio yn y pentref rhwng pentrefwyr hŷn ac iau trwy sicrhau aelodau o amrywiaeth o oedrannau. Mae wedi ehangu, ymestyn a datblygu ymdeimlad o gymuned i bob un o’n haelodau, ac o ganlyniad, mae amgylchedd y pentref wedi’i wella a’i gynnal.”
Yn dilyn llwyddiant y Grant Cynhwysiant Cymunedol ers 2012, rydym nawr yn ehangu’r meini prawf cymhwysedd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn croesawu ceisiadau gan gynlluniau sy’n cefnogi oedolion hŷn ac oedolion gydag anableddau dysgu a/neu gorfforol a phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â gofalwyr anffurfiol.
Ers 2012 mae’r Grant wedi helpu bron i gant o grwpiau yn y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd Mr Phil Coops, “Mae cyllid o’r Grant Cynhwysiant Cymunedol wedi’i wneud yn bosibl i grwpiau bach gael offer a deunydd a sicrhau eu bod ar gael i’w defnyddio gan y gymuned gyfan mewn modd nad oedd ar gael o’r blaen. Gallwn nawr helpu’r aelodau hŷn yn yr ardal gofio eu blynyddoedd blaenorol a chofio’r gorffennol fyddant yn ei fwynhau.
“Mae’r broses ar gyfer cael y grant yn eithaf syml i’w llywio ac roedd y staff bob amser ar gael i helpu pe bai yna unrhyw broblemau. Fel grŵp, maent wedi bod yn amhrisiadwy yn ein helpu i ymgymryd â’n cais llwyddiannus a phrosiect i’r gymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r grantiau eisoes wedi cefnogi llawer o weithgareddau cymunedol ar draws Wrecsam a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl am sefydlu grŵp cymunedol neu sy’n dymuno datblygu grŵp presennol i gysylltu â’r tîm comisiynu.”
Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer sesiynau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lle gall pobl gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau. Gwahoddir cynigion gan unigolion neu sefydliadau ar gyfer gweithgareddau megis:
Cinio cwmni da
Rhannu hobïau
Dysgu sgiliau newydd
Menter gymdeithasol / cwmni cydweithredol
Neu anfonwch e-bost at: CIG@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wyboda
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR