Rydym eisiau clywed eich safbwyntiau er mwyn ein helpu ni i ddatblygu ein gwasanaethau ar-lein, ac mae gennych tan ddiwedd y mis i rannu eich barn drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad.
Mae ein hymgynghoriad ar y Strategaeth Ymgysylltu Mynediad Cwsmeriaid ar agor ar hyn o bryd ac rydym eisiau clywed eich safbwyntiau fel y gallwn siapio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymgynghoriad wedi’i ymestyn tan 30 Ebrill 2024.
Beth rydym ni’n awyddus i’w ddarganfod?
Rydym yn mynd i fod yn diweddaru ein hystod o fentrau digidol, gan edrych ar ymgorffori’r datblygiadau sydd wedi digwydd mewn gwasanaethau ar-lein, yn arbennig mewn ymateb i’r pandemig.
Fel rhan o’r gwaith hwn rydym yn awyddus i ddarganfod:
- I ba raddau mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein
- Beth allai fod yn atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau’r cyngor ar-lein
- Beth fyddai’n annog pobl i ddefnyddio mwy o wasanaethau ar-lein
- Ffyrdd o wella ein gwasanaethau ar-lein
- Unrhyw gefnogaeth y mae pobl ei hangen i’w helpu i fynd ar-lein
- Safbwyntiau ar yr ystod o ddulliau cyswllt sydd ar gael
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: “Rydym eisiau cael cymaint o safbwyntiau ag y gallwn fel y gallwn barhau i ddatblygu’r holl wasanaethau cyngor rydym yn eu darparu ar-lein ac i’n helpu ni i gefnogi ein preswylwyr sydd wedi eu heithrio’n ddigidol. Mae’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Ymgysylltu Mynediad Cwsmer yn fyw tan Ebrill 30 ac mae’n cymryd tua 10-15 munud i’w gwblhau felly cymrwch ran os gallwch chi os gwelwch yn dda.”
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein trwy Eich Llais.
Neu os yw’n well gennych chi, gellir argraffu copi papur o’r ymgynghoriad ar gais yn Galw Wrecsam neu yn eich swyddfa ystâd dai leol.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.