Llynedd bu i ni wneud newidiadau mawr i’n gwasanaeth ailgylchu er mwyn ailgylchu mwy a gwneud ein gwasanaeth casglu yn fwy effeithiol. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cydweithrediad, mae’r newidiadau wedi bod yn llwyddiannus. Daeth ein gwasanaeth casglu yn fwy effeithiol a bu i ni gyrraedd cyfradd ailgylchu o 68% am y tro cyntaf!
Rydym ni bellach wedi adolygu’r holl newidiadau, yn arbennig nifer y cerbydau sydd gennym ni, ac wedi canfod bod modd i ni wella pethau ymhellach drwy leihau nifer y cerbydau ailgylchu rydym ni’n eu defnyddio.
Bydd y newidiadau diweddaraf yn dod i rym ar 4 Medi a’r unig beth fydd yn newid i chi fydd amser eich casgliadau.
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n rhoi’ch biniau gwastraff ac ailgylchu allan erbyn 7.30am ar eich diwrnod casglu arferol ar 4 Medi.
Os wnewch chi hyn, fyddwch chi ddim yn methu eich casgliad
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“mae’r newidiadau wedi eu gwneud i wella effeithlonrwydd”
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’ch cefnogaeth a’ch cymorth gyda’n hymdrechion ailgylchu wedi bod yn wych, a hoffaf ddiolch i chi am hynny. Bydd y newid yma ond yn effeithio ar amser eich casgliad, felly mae’n bwysig eich bod chi, o 4 Medi ymlaen, yn rhoi’ch biniau gwastraff ac ailgylchu allan erbyn 7.30 ar eich diwrnod casglu arferol. Ni fydd eich diwrnod casglu yn newid, ac mae’r newid yma’n cael ei wneud i geisio gwella effeithlonrwydd.”
I wneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio rhoi’ch biniau allan fe allwch chi gofrestru isod i dderbyn negeseuon atgoffa. Ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn e-bost diwrnod cyn eich casgliad yn eich atgoffa.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI