Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â’i daflu. Peidiwch â phrynu o’r newydd.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Peidiwch â’i daflu. Peidiwch â phrynu o’r newydd.
Busnes ac addysgDatgarboneiddio Wrecsam

Peidiwch â’i daflu. Peidiwch â phrynu o’r newydd.

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 15, 2026 12:18 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
don't bin it
RHANNU

Wrth i’r flwyddyn ysgol ddod i ben, a fydd gennych chi wisg ysgol nad oes ei hangen ar eich plentyn mwyach?

P’un a yw wedi gorffen yn ei ysgol bresennol neu wedi tyfu’n rhy fawr iddi, ond mae’n dal i fod mewn cyflwr da, rydyn ni’n gofyn i chi ei rhoi.

Oes gennych chi wisg i’w rhoi?

Mae dwy ffordd i roi gwisg:

  • Os yw ysgol eich plentyn yn cymryd rhan, gallwch chi ei gadael yno cyn diwedd tymor yr haf
  • Os nad yw’r ysgol yn cymryd rhan neu os yw yn ystod gwyliau’r ysgol, gallwch chi fynd â hi i’r Hwb Lles, Adeiladau’r Goron, Wrecsam (mynedfa wrth ymyl maes parcio’r ganolfan Byd Dŵr)

Pa eitemau y gellir eu rhoi?

Mae angen amrywiaeth o wisgoedd o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys:

  • Eitemau â logo (blaseri, siwmperi, cardiganau, crysau chwys, gwisgoedd addysg gorfforol)*
  • Trowsusau (llwyd neu ddu)
  • Sgertiau (llwyd neu ddu)
  • Pinafforau (cynradd)

*Mae eitemau â logo, yn enwedig y rhai ar gyfer ysgolion uwchradd, yn arbennig o bwysig felly os oes gennych chi unrhyw un o’r rhain nad oes eu hangen arnoch chi mwyach, bydden ni’n gwerthfawrogi eich rhodd yn fawr.

Ar fin prynu gwisg ysgol? Arhoswch funud…

Bydd eitemau sydd wedi’u rhoi ar gael i bawb yn y fwrdeistref sirol tan fydd y stoc yn dod i ben.

Nid oes angen apwyntiad arnoch chi ac nid oes angen gwaith papur. Dewch i’r dderbynfa yn yr Hwb Lles a bydd staff wrth law i helpu i ddod o hyd i’r eitemau sydd eu hangen arnoch chi.

Bydd yr holl eitemau am ddim, bydd stoc yn cael ei hychwanegu ati wrth i roddion ddod i law, a bydd yr holl eitemau yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod nhw’n lân ac mewn cyflwr da.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr aelod arweiniol dros yr amgylchedd: “Bob blwyddyn yn y DU, mae tua 300,000 tunnell o ddillad yn mynd i mewn i finiau cartrefi, ac yna’n cael eu llosgi neu eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Nid yw’r un o’r ddau beth hynny’n ecogyfeillgar nac yn gynaliadwy. Mae’r prosiect hwn yn gyfle perffaith i leihau gwastraff dillad yn Wrecsam. Os oes gennych chi wisg ysgol y mae eich plentyn wedi tyfu’n rhy fawr iddi, dw i’n eich annog chi i’w gadael yn ei ysgol neu, ar ôl 20 Gorffennaf, yn yr Hwb Lles.”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr hyrwyddwr trechu tlodi: “Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o’r cynnydd yng nghostau byw, felly mae hwn yn gyfle i’w groesawu i bob teulu yn Wrecsam i dorri cost gwisg ysgol. Mae’r holl eitemau dillad yn yr Hwb Lles am ddim, mewn cyflwr da ac yn lân, a dw i’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod draw dros wyliau’r haf i gasglu’r hyn y bydd eu plant ei angen ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd Tŷ Pawb yn cynnal diwrnod hwyl i'r teulu AM DDIM ym mis Mehefin Bydd Tŷ Pawb yn cynnal diwrnod hwyl i’r teulu AM DDIM ym mis Mehefin
Erthygl nesaf memorial Gorymdaith goffa a dadorchuddio cofeb – Mehefin 27

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English