Mae pobl wedi bod yn meddwl am bob mathau o ffyrdd i ddweud ‘diolch’ wrth weithwyr y rheng flaen dros yr wythnosau diwethaf.
A heddiw, mae Wrecsam wedi dod o hyd i ffordd arall o dalu teyrnged i’r bobl anhygoel yma…
Mae negeseuon yn dweud ‘Diolch i’r GIG’ – yn ogystal â baner siâp calon â lliwiau’r enfys arni – wedi cael eu peintio ar wynebau Ffordd Ddyfrllyd a Ffordd Croesnewydd, gerllaw Ysbyty Maelor.
Ac mae neges yn dweud ‘Diolch’ i bob gweithiwr allweddol arall ar y rheng flaen wedi cael ei pheintio ar wyneb Ffordd yr Wyddgrug, sef un o’r ffyrdd allweddol i mewn ac allan o ganol y dref.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
“Dewrder a charedigrwydd”
Mewn datganiad ar y cyd, dywed Arweinydd y Cyngor Mark Pritchard a’r Dirprwy Arweinydd David A Bithell, bod y marciau ffordd yn ddull bach arall o dalu teyrnged i’r bobl sy’n mynd y tu hwnt i’r galw yn ystod argyfwng Covid-19…
“Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bawb, ond mae gweld negeseuon o gefnogaeth i weithwyr allweddol gan bobl o bob cwr o Wrecsam yn ysbrydoledig iawn.
“Mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor falch ydym ni – fel bwrdeistref sirol – o weithwyr allweddol. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pawb … yn ein helpu i gadw’n ddiogel a darparu popeth sydd ei angen arnom.
“Mae eu dewrder a’u caredigrwydd wedi gwneud i ni gyd deimlo’n ddiymhongar…ac er bod dweud ‘diolch’ yn ymddangos yn rhywbeth bach, mae’n rhywbeth y gallwn ei wneud i roi gwybod i’r bobl yma cymaint yr ydym yn eu gwerthfawrogi.
“Mae’r hyn y maent yn ei wneud yn anhygoel ac mae’r marciau ffordd hyn yn ddull bach arall o ddweud ‘diolch’ – ar ran y cyngor a Wrecsam gyfan.”
Mae’r gost o beintio negeseuon ar wynebau’r ffyrdd wedi’i thalu trwy garedigrwydd ein contractwyr L&R Roadlines ac Amberon, a hoffem ddiolch iddyn nhw am wneud hyn.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19