Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pennaeth yn diolch i’w staff am eu ‘hymroddiad parhaus’ yn dilyn adroddiad clodwiw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Pennaeth yn diolch i’w staff am eu ‘hymroddiad parhaus’ yn dilyn adroddiad clodwiw
Busnes ac addysgY cyngor

Pennaeth yn diolch i’w staff am eu ‘hymroddiad parhaus’ yn dilyn adroddiad clodwiw

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 19, 2018 10:29 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Pennaeth yn diolch i’w staff am eu ‘hymroddiad parhaus’ yn dilyn adroddiad clodwiw
RHANNU

Mae un o’n hysgolion uwchradd wedi croesawu adroddiad cynnydd gwych yn dilyn ymweliad diweddar gan arolygwyr.

Mae pennaeth a staff Ysgol y Grango’n dathlu adroddiad diweddar gan Estyn sy’n dangos fod yr ysgol wedi ymateb i,  ac wedi cyflawni’r holl argymhellion a wnaed yn dilyn archwiliad blaenorol.

Daw’r newyddion da wrth i’r gwaith o ymestyn yr ysgol fynd yn ei flaen yn sgil gordanysgrifio dros y tair blynedd ddiwethaf.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Mae’r adroddiad yn nodi gwelliannau cryf mewn sawl maes, gan gynnwys:

  • Perfformiad disgyblion ar ddiwedd Cam Allweddol 4, sydd wedi codi i lefel uwch na’r rhan fwyaf o ysgolion tebyg
  • Yr ‘amrywiaeth eang o gyfleoedd gwerthfawr’ sydd ar gael i helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a TGCh.
  • Mwy o hunan werthuso a chynllunio ar gyfer gwella – y ddau faes wedi eu “cryfhau’n sylweddol”.
  • Cryfder llais y disgyblion yn natblygiad yr ysgol, gan gynnwys drwy ddigwyddiadau fel ‘Dydd Gwener Adborth’ sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion roi eu barn ar yr addysgu a’r dysgu.

“Wrth fy modd gyda’r sylwadau cadarnhaol”

Meddai Stephen Garthwaite, pennaeth Ysgol y Grango: “Rydw’i wrth fy modd gyda’r sylwadau cadarnhaol sydd yn yr adroddiad archwilio.  Mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y tîm cyfan sy’n ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth ar draws pob maes fel bod ein myfyrwyr yn derbyn addysg a gofal o’r safon orau bosibl.

“Rydym hefyd wedi buddsoddi ymhellach yn natblygiad proffesiynol ein hathrawon o ran arfer ystafell ddosbarth ac asesu ac rydym yn annog rhannu arfer da mor aml â phosibl, sydd eto yn ffactorau a gydnabuwyd gan yr arolygwyr.

“Fel ysgol gallwn fod yn hyderus ein bod wedi sefydlu mesurau a fydd yn sicrhau dyfodol llwyddiannus, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes wedi ei gyflawni a dal ati i godi ein dyheadau.

“Hoffwn ddiolch i’r holl staff am eu hymroddiad parhaus ac i’r gymuned am eu cefnogaeth amhrisiadwy.”

Llongyfarchodd Ian Roberts, Pennaeth Addysg Cyngor Wrecsam, yr ysgol am ei ‘canlyniad rhagorol’ yn dilyn ymweliad Estyn, a chanmolodd pawb am eu ‘”ymdrech, ymrwymiad ac ymroddiad.”

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn,  Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’r adroddiad cynnydd rhagorol hwn wedi fy mhlesio’n fawr, a rhaid llongyfarch yr holl staff, disgyblion a llywodraethwyr am eu hymdrechion i sicrhau fod yr ysgol wedi cwblhau gofynion Estyn yn erbyn yr ail archwiliad.”

Dywedodd Brian Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Mae’r llywodraethwyr wrth eu bodd â’r holl agweddau cadarnhaol a amlygwyd yn yr adroddiad.  Mae gwir werthfawrogiad o’r gwaith caled y mae’r pennaeth a’r tîm arweinyddiaeth wedi ei wneud i hyrwyddo’r fath amgylchedd dysgu rhagorol ac ethos gofal cryf.

“Rydym i gyd yn canolbwyntio ar godi lefelau cyrhaeddiad ac rwy’n hyderus gyda phopeth sydd eisoes wedi ei wneud ac a fydd yn cael ei wneud, y gall yr ysgol edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus dros ben.

“Fel cymuned mae’n rhaid i ni annog ein pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol ac i wireddu eu breuddwydion.”

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham council news, school meals menu, Wrexham schools Bwydlenni ysgol yn syth i’ch blwch e-bost
Erthygl nesaf Business Wales events, New business owners, North Wales events, Wrexham businesses Ydych chi’n egin entrepreneur? Beth am gynyddu eich gwybodaeth fusnes gyda digwyddiadau Busnes Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English