Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru’n dymuno penodi pobl ymroddgar i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig o 01/11/21 tan 31/10/2024 er mwyn cefnogi a chraffu ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Gwahoddir ceisiadau gan bobl y mae ganddynt ddiddordeb ac sy’n deall pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a sut y maent yn cael eu darparu, ac sydd â diddordeb mewn diogelwch cymunedol a materion yn ymwneud â phlismona a chyfiawnder troseddol. Mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn dymuno adlewyrchu holl gymunedau gogledd Cymru, ac yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn cymwys ac o bob rhan o gymdeithas.
I wneud cais, bydd angen i chi allu dod i o leiaf 5 cyfarfod bob blwyddyn a gynhelir ym Modlondeb, Conwy yn ystod y diwrnod gwaith arferol. Caiff aelodau’r Panel Heddlu a Throsedd gydnabyddiaeth ariannol yn unol â threfniadau’r Panel Heddlu a Throsedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.nwpcp.org.uk, ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â’r Panel Heddlu ar Throsedd ar 01492 576061 neu anfonwch e-bost at policepanel@conwy.gov.uk
Dyddiad Cau: 20/08/2021.
Cynhelir y cyfweliadau ym mis Medi 2021, a bydd y penodiadau’n cael eu gwneud ym mis Hydref 2021.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]