Ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Medi, bydd Canolfannau Hamdden yn Wrecsam sy’n cael eu rhedeg gan Freedom Leisure, yn llawn cyffro wrth iddynt groesawu’r gymuned leol i’w penwythnos agored, gan gynnig rhywbeth i bawb!
Bydd mynediad am ddim i’r gym drwy gydol y penwythnos, dosbarthiadau ffitrwydd am ddim a gostyngiad wrth archebu’r maes chwarae 3G, felly bydd rhywbeth i bawb roi cynnig arno. Bydd y Byd Dŵr a’r Waun hefyd yn croesawu Dan, sef Hyfforddwr Meistr Les Mills, a fydd yn rhoi dosbarth meistr BODYPUMP a BODYCOMBAT.
Dewch i gael ychydig o hwyl yn y pwll nofio gyda’r plant yn y sesiynau nofio am ddim a fydd ar gael yn y Byd Dŵr, Gwyn Evans a’r Waun.
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal ar gyfer Freedom Leisure yn Wrecsam, “Mae canolfannau hamdden ffantastig gennym ledled Wrecsam ac rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu ein cymuned leol i’n penwythnos agored i roi tro ar bopeth sydd gennym i’w gynnig. Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i symud tuag at ffordd o fyw iach, a bod yn fwy actif, yn amlach.”
Mae Freedom Leisure, un o’r prif ymddiriedolaethau hamdden nid-er-elw, yn rhedeg Canolfannau Hamdden ledled Wrecsam mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Cynnig 60 Oed a hyn: Cynllun Hamdden Actif 60+
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch