Amser i gamu yn ôl a thynnu anadl ar ôl ychydig ddiwrnodau rhyfeddol o ddigwyddiadau gwych yn Tŷ Pawb!
Cerddoriaeth, theatr, dawns, bwyd dda a siopa, roedd ganddo’r cyfan! Mae’n annod gwybod lle i ddechrau!
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Noson Lawen
Cychwynnodd bopeth ar nos Wener gyda chyngerdd hyfryd o ganeuon a straeon sy’n cynnwys pump o’r actiau gorau o’r byd cerddoriaeth gwlad.
Llenodd dros 70 o bobl ein gofod perfformio i glywed noson wych o gerddoriaeth gan Blue Genes, Stuart Landon, Amy Westney, Lars Pluto a Mountainface.
Gŵyl Corau
Rodd Wrecsam yn llawn dop ddydd Sadwrn gyda miloedd o bobl yn mynd allan i’r dref i fwynhau gŵyl Canu ar y Strydoedd Wrecsam.
Fe wnaethon ni gynnal 7 o gôr yma’n gyfan gwbl. Roedd yr ardal bwyd yn llawn o’r bore i’r phrynhawn, gyda chynulleidfa a chyfranogwyr yn mwynhau’r gerddoriaeth ac yn gwneud y gorau o’r bwyd a’r diod o Plât Bach, Just Desserts a Milkshakes a Curry On the Go!
Rhoddwyd defnydd da i’n piano hyfryd wrth i gantorion o bob oed lenwi’r adeilad gyda cherddoriaeth, o Fleetwood Mac i Calon Lân!
“Gwerthu allan!!”
Tra bod y corau’n perfformio yn y llys bwyd, roedd ein gofod perfformio yn cynnal addasiad rhyfeddol o Alice in Wonderland, trwy garedigrwydd y grŵp theatr ieuenctid lleol, District-14 (The Learning Collective), sydd ag oed cyfartalog o dim ond 12.
Perfformiodd y grŵp un sioe ar nos Sadwrn ac un arall ar brynhawn Sul. Gwerthwyd y ddau sioe, gyda thros 200 o bobl yn mynychu’n gyfanswm.
Dadorchuddiwyd siop farchnad newydd
Ymunodd dau o’n masnachwyr marchnad y penwythnos hwn i greu siop newydd hardd. Mae Seaton Manor (cynhyrchion sebon a chorff) bellach wrth ochr Rings a Things.
Rydyn ni wrth ein bodd hefo beth mae Karen ac Amanda wedi ei wneud gyda’r lle! Dewch i edrych!
Amser parti…
I orffen y dydd Sadwrn gofiadwy hon, fe wnaethon ni taflu parti! Roedd ein Parti Myfyrwyr yn cynnwys cerddoriaeth fyw, bar, bwyd, a rhai dawnsio rhyfeddol mewn rhai pwyntiau!
Yn amlwg, byddai Defaid Wrecsam yn mynd i gymryd rhan yn hyn …
…a pharti arall
Dechreuodd y dydd Sul gyda sel top fwrdd (byddwn yn cyhoeddi mwy o’r rhain yn fuan), wedyn croesaom ddigwyddiad mawr arall eto – lansio Mis Hanes Pobl Duon!
Dechreuodd y ddigwyddiad gyda gorymdaith drymio o gwmpas canol y dref, gan orffen yn Tŷ Pawb.
Yna cawsom adloniant gwych ar gyfer gweddill y prynhawn gyda cherddoriaeth, dawnsio a pherfformiadau byw o bob math.
Amser Dysgu
Yn ogystal â’r digwyddiadau mawr, mae gennym wersi Cymraeg am ddim yn Tŷ Pawb bob dydd Sul. Ymunodd Maer Wrecsam, y Cyng Andy Williams yr wythnos hon i brofi ei sgiliau iaith gyda’r dosbarth!
Cliciwch yma os hoffech chi roi gwersi Cymraeg am ddim, rhowch gynnig arnoch chi’ch hun.
Mae’r celf wedi cyrraedd!
Tra’r oedd yr holl adloniant hwn yn digwydd, yn yr oriel roeddem yn brysur wrth gymryd cannoedd o weithiau celf trwy’r penwythnos o bob cwr o’r wlad (a rhai o’r tu hwnt), yn barod ar gyfer yr arddangosfa Wrecsam Agored.
Byddwn yn cyd-gynnal yr arddangosfa gydag Undegun. Cynhelir y digwyddiad agoriadol am 4.30pm ddydd Gwener Hydref 12. Bydd hyn yn ddigwyddiad arbennig! Peidiwch â’i golli!
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Each i wefan Tŷ Pawb yma.
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION