Cynhelir digwyddiad am ddim yn Llyfrgell Wrecsam ar 1 Awst a allai eich helpu i wella cynnwys eich blog a’ch cyfryngau cymdeithasol.
Nid yw creu cynnwys atyniadol a diddorol ar gyfer blogiau, y wasg a chyfryngau cymdeithasol yn hawdd bob amser a bydd y sesiwn yma yn eich helpu i’w gael yn iawn a chael gwared ar y ‘jargon’ rydych yn ei gael yn aml ar-lein.
Os ydych chi’n fusnes bach fe fyddwch chi’n gwybod pa mor werthfawr y gall hyn fod i roi hwb i fusnes.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Fe fydd y sesiwn yn apelio i fusnesau bach a blogwyr yn arbennig, ond mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb fynychu.
Byddwch chi’n dysgu awgrymiadau gwych ac fe fyddwch yn cael cyngor ynghylch sut i gael eich erthyglau mewn i’r wasg leol iddynt gael rhagor o sylw.
Mae’r sesiwn yn rhan o sesiynau Dysgu dros Ginio, mae am ddim ac yn para am un awr gan ddechrau am 1pm.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN