Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Barod i ymweld â maes chwarae mwyaf Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Barod i ymweld â maes chwarae mwyaf Wrecsam?
ArallPobl a lleY cyngor

Barod i ymweld â maes chwarae mwyaf Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 23, 2018 3:14 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrexham Playday Sandpit
RHANNU

Mae plant o bob oedran, a’u rhieni, yn paratoi i ymweld â chanol y dref ddydd Mercher 1 Awst – sef Diwrnod Chwarae Blynyddol, ar ôl iddo gael ei drawsnewid i’r maes chwarae mwyaf yn Wrecsam!

Mae’r trefnwyr wedi bod yn gweithio fel lladd nadroedd i sicrhau mai hwn yw’r diwrnod gorau eto ac maent yn gweithio’n galed i sicrhau fod yna ddigonedd i’w wneud waeth beth fydd y tywydd.

Fe fydd yna weithgareddau fel gwneud cerbydau go-cart, i dynnu lluniau sialc ar y pafin neu chwarae yn y pwll tywod enfawr.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Yr unig beth sy’n sicr ydi y byddant i gyd yn cael amser gwych ac mae’n debygol iawn y byddant wedi blino’n lân erbyn diwedd y dydd.

Maent yn sicr o faeddu felly fe ddylent wisgo hen ddillad a dewch â dillad i newid iddynt hefyd gan eu bod yn debygol o wlychu rhywben yn ystod y dydd.

Mae croeso i chi ddod â phicnic gyda chi, neu fe allwch fanteisio ar beth sydd ar gael yng nghanol y dref.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 12pm ac yn dod i ben am 4pm.

“Diwrnod wrth eich bodd”

Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae’n ddiwrnod gwych ac mae’n ddiwrnod lle mae canol y dref yn orlawn gyda phobl ifanc yn cael amser anhygoel ac yn wirioneddol fwynhau eu hunain. Mae’r Tîm Chwarae yn gweithio’n galed unwaith eto i sicrhau fod yna ddigonedd i’w wneud ac fe hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith caled. Pob lwc i bawb a chroesi bysedd y bydd hi’n parhau’n sych a braf.”

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gallai’r syniad hwn ennill £50 i chi! Gallai’r syniad hwn ennill £50 i chi!
Erthygl nesaf Wrexham Perffeithiwch eich cyfryngau cymdeithasol yn y digwyddiad yma…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English