Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales
Pobl a lleY cyngor

Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 9, 2017 3:30 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales
RHANNU

Bydd comedïwr Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau am ei berfformiadau yn cymryd y llwyfan mewn digwyddiad diwylliant a cherddoriaeth Cymraeg y flwyddyn nesaf.

Bydd y comedïwr Tudur Owen yn arwain perfformiad comedi dwyieithog newydd sbon yn HWB Cymraeg ar ddydd Gwener, 11 Mai fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau Cymraeg gan FOCUS Wales.

Mae’r Marathon – a elwir yn Marathon Comedi Tudur Owen – yn cynnwys nifer o gomediwyr byw gan gynnwys perfformiad dwyieithog gan Tudur ei hun.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Mae Tudur, a fydd yn darlledu ei raglen ar Radio Cymru yn fyw o HWB Cymraeg ar y dydd, wedi ysgrifennu nifer o sgriptiau comedi yn y Gymraeg ar gyfer teledu, radio a theatr ac wedi dod yn gymeriad enwog gyda’i sioe ar BBC Radio Cymru.

Cychwynnodd ei yrfa yn 1999 a mae o bellach yn un o brif dalentau comedi Cymru gyda rhes o sioeau wedi gwerthu allan yn yr Edinburgh Fringe Festival yn ogystal â gyrfa ysgrifennu a darlledu trawiadol iawn.

Er bod Tudur yn enwog am ei gomedi Cymraeg, mi fydd y sioe yn ddwyieithog, ac yn hwyl i bawb beth bynnag yw eich gallu yn y Gymraeg.

Y Marathon Comedi fydd un o nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn HWB Cymraeg – elfen newydd o FOCUS Wales sydd gyda’r bwriad o hyrwyddo cerddorion, artistiaid, comediwyr a pherfformwyr eraill yn y Gymraeg.

Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales

Bydd pabell HWB Cymraeg ar Sgwâr y Frenhines yn llawn o berfformiadau cerddorol, sgyrsiau, gweithdai, gweithgareddau, bwyd a diod trwy gydol Gŵyl FOCUS Wales a fydd yn  rhedeg o 10 Mai tan 12 Mai 2018.

Cynhelir HWB Cymraeg gan FOCUS Wales mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam.

Meddai Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Gwyddwn fod Tudur yn berfformiwr comedi enwog iawn yng Nghymru a thu hwnt, ac roeddem o’r farn y byddai’n berffaith ar gyfer HWB Cymraeg, y nod yw hyrwyddo a meithrin celfyddydau, diwylliant ac adloniant yr iaith Gymraeg.

“Rydym yn edrych ymlaen at Farathon Comedi Tudur ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg ac mewn comedi i fynychu.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal HWB Cymraeg ac mae wedi cyflwyno tomen o ddigwyddiadau Cymraeg i FOCUS Wales.

“Cafwyd blwyddyn agoriadol hynod lwyddiannus ac rydym yn gobeithio cael cynulleidfa fawr ac ymateb da unwaith eto eleni er mwyn gwneud yn siŵr bod blwyddyn nesaf yn hyd yn oed gwell.”

Meddai Neal Thompson, cyd-sylfaenydd FOCUS Wales:  “Rydym yn falch iawn o gael ymrwymiad Tudur Owen.

“Rydym yn gwneud llawer i helpu i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg newydd ac rwy’n falch ein bod yn gweithio gyda Tudur i wneud yr un peth ar gyfer comedi byw Cymraeg.”

Tocynnau i Marathon Comedi Tudur Owen yn £8 yr un ac ar werth rŵan ar www.focuswales.com/tocynnau/.

Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

Rhannu
Erthygl flaenorol Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig
Erthygl nesaf Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu! Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English