Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Esgyrn twrci a phlisgyn cnau castan…pethau y bydd eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Esgyrn twrci a phlisgyn cnau castan…pethau y bydd eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn
Pobl a lleY cyngor

Esgyrn twrci a phlisgyn cnau castan…pethau y bydd eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 12, 2019 11:43 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Chestnuts Food Waste Recycling
RHANNU

Ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd WRAP, “2018 oedd y flwyddyn y deffrodd Prydain i ailgylchu, 2019 yw’r flwyddyn rydym yn gweithredu”.

Cynnwys
  • Gweithredu
  • Esgyrn twrci
  • Bwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch plât
  • Plisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiau
  • Bwyd Cyflym
  • Yr holl stwff arall

Wrth i ni ymdrechu i wella gyda’n hailgylchu, mae’n bwysig cofio fod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth aruthrol yn Wrecsam.

A dros y Nadolig, bydd llawer ohonom yn delio â chyfaint mwy o fwyd nac unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.

Gweithredu

Os gall bob un ohonom wneud mwy o ymdrech a gwneud yn siŵr fod ein holl sbarion bwyd yn cael eu hailgylchu’r Nadolig hwn, byddwn yn sicr yn gweithredu a chwarae ein rhan dros Wrecsam.

Fis diwethaf, gwnaethom ailgylchu 195 tunnell o wastraff bwyd yn ein cadis ac rydym yn gwneud yn well na’r llynedd, ond nid da lle gellir gwell.

Yn anffodus, mae nifer ohonom yn dal i roi ein sbarion bwyd yn ein gwastraff cyffredinol, er ein bod yn darparu cadis a bagiau ar gyfer y cadis am ddim.

Angen cadi bwyd newydd? Cliciwch yma i archebu un AM DDIM…

Darganfyddwch sut i gael bagiau cadi AM DDIM yma…

Felly, mae’n debyg fod hwn yn amser da i atgoffa’n hunain beth fedrwn ni ei ailgylchu yn ein cadi bwyd yn tydi? Pawb yn cytuno? Iawn ta, beth am sôn am rai o’r pethau y byddai eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn 🙂

Esgyrn twrci

Nid esgyrn twrci yn unig chwaith, gellir ailgylchu esgyrn a charcasau pob cig fel gwastraff bwyd… a chofiwch, mae eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, ond nid felly eich gwastraff cyffredinol. Felly os na fyddwch yn ailgylchu’r pethau hyn byddent yn eistedd, yn pydru yn eich bin am ychydig wythnosau. Does neb eisiau bin drewllyd … yn arbennig dros y Nadolig.

Oes gennych chi sbarion twrci neu gigoedd eraill? Gallech chi geisio coginio gyda’ch sbarion… meddyliwch am risottos, cyris, cawl a lobsgows. Eisiau ychydig o ysbrydoliaeth? Mae gan wefan Love Food Hate Waste syniadau gwych ar gyfer ryseitiau!

Gallwch ailgylchu cig wedi’i goginio yn eich cadi, ond ceisiwch osgoi gwastraff a achosir drwy brynu gormod.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Bwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch plât

Er gwaethaf ein hymdrechion, bydd un eitem bob hyn a hyn yn mynd yn sownd yng nghefn yr oergell ac yn mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddiwch erbyn’.

Pan fo hyn yn digwydd, dylem bob amser droi at ein cadi. Os yw’n gig amrwd, gall fynd i mewn i’ch cadi. Os yw’n rhywbeth sydd wedi llwydo, gall fynd i’ch cadi hefyd. Rydym yn gwybod ein bod yn ailadrodd ein hunain, ond mae eich cadi’n cael ei wagio bob blwyddyn …. bin drewllyd… ydach chi’n deall beth sydd gennon ni?

Arfer da arall i chi drwy gydol y flwyddyn yw crafu eich plât i mewn i’ch cadi bwyd os oes gennych chi unrhyw sbarion.

A chofiwch, os yw eich bagiau cadi yn dechrau mynd yn brin, clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi 🙂

Plisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiau

Gellir ailgylchu plisgyn fel gwastraff bwyd. Felly os ydych chi’n mwynhau cnau castan neu unrhyw gnau dros y Nadolig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu’r plisgyn yn eich cadi. Gellir ailgylchu plisgyn llai Nadoligaidd, fel plisgyn wy 😉

Gellir ailgylchu crwyn llysiau a ffrwythau ynghyd â chraidd afal. Gallwch hefyd ailgylchu unrhyw ffrwythau a llysiau heb eu bwyta, ysgewyll a’r cyfan.

Bwyd Cyflym

Efallai y bydd diwrnod neu ddau dros y Nadolig pan na fydd neb yn teimlo fel coginio. Ar y dyddiau hyn, efallai y byddwch yn archebu bwyd tecawê, ond cofiwch ei bod yn dal yn bosibl ailgylchu sglodion heb eu bwyta a sbarion pitsa.

Yr holl stwff arall

Mae hefyd yr holl stwff arall na ddylech ei anghofio sy’n gallu mynd i’ch cadi bwyd, fel:

• Bagiau te
• Coffi mân
• Pysgod cregyn
• Prydau parod heb eu bwyta
• Cyllyll a ffyrc pren

Reit, rŵan fod gennym ni’r holl wybodaeth … beth am i bawb gymryd rhan a gweithredu’r Nadolig hwn 🙂

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Chwilio am anrheg Nadolig unigryw? Gall Siop//Shop Tŷ Pawb helpu ... Chwilio am anrheg Nadolig unigryw? Gall Siop//Shop Tŷ Pawb helpu …
Erthygl nesaf Gwrandewch mewn .... digwyddiad radio cenedlaethol yn Tŷ Pawb Gwrandewch mewn …. digwyddiad radio cenedlaethol yn Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English