Pan fydd Cymru’n chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 bydd y cefnogwyr yn medru ymuno yn y cyffro mewn nid un ond dau Barth Cefnogwyr ar y Stryt Fawr a Thŷ Pawb.
Codir sgriniau mawr yn y ddau le a bydd Parth Cefnogwyr Tŷ Pawb wedi’i neilltuo’n arbennig i deuluoedd. Yn yr ardal fwyd fydd y sgrin a bydd yno far a’r mannau bwyd i gyd ar agor, a bydd yno hefyd gerddoriaeth a gweithgareddau pêl-droed cyn y gemau a gynhelir gyda’r nos.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Ar y Stryt Fawr bydd cerddoriaeth fyw ar lwyfan fawr yn cyd-fynd â’r gemau gyda’r nos.
Bydd y Parthau nid yn unig yn cefnogi tîm Cymru yn y gystadleuaeth ond hefyd yn hybu’r economi ddydd a nos yn Wrecsam.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae pêl-droed yn rhan annatod o hanes Wrecsam ac yma yn y Wynnstay Arms y ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876. I lawer o bobl, pêl-droed yw curiad calon Wrecsam a gwn y bydd arnynt eisiau dod at ei gilydd i glodfori a chefnogi ein tîm cenedlaethol.
“Rydym hefyd yn annog ysgolion i gymryd rhan drwy wahodd disgyblion cynradd i’r gemau yn y bore yn Nhŷ Pawb a disgyblion uwchradd i’r Stryt Fawr.”
“Dim ond megis dechrau mae ein cynlluniau a byddwn yn rhannu mwy o fanylion cyn bo hir.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH