- Dydd Sadwrn, 22 Mehefin
- Y Parciau, Wrecsam
- 1pm-5pm
Mae pobl o bob rhan o’r ddinas yn cael eu hannog i ddod ynghyd ar gyfer Picnic Mawr Wrecsam y penwythnos hwn.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 22 Mehefin yn Y Parciau, i ddathlu cymunedau lleol, ac mae’n argoeli i fod yn llawer o hwyl!
Felly dewch â’ch bwyd eich hun a mwynhewch brynhawn o gelf, crefftau, chwaraeon, cerddoriaeth, gwyddoniaeth ac adrodd straeon yn un o barciau harddaf Wrecsam.
Bydd y gerddoriaeth yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Ysgol Victoria a band dur Ysgol Clywedog, ac os ydych chi’n teimlo’n heini, fe allwch chi gymryd rhan mewn gweithgareddau tennis a chiciau o’r smotyn!
Mae’r digwyddiad yn rhan o Wythnos Genedlaethol Ffoaduriaid, ac mae’n cael ei drefnu gan sefydliadau partner ar draws Wrecsam, yn cynnwys Trefnu Cymunedol Cymru, Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru.
Meddai Bobbi Cockcroft, Trefnydd Cymunedol gyda Threfnu Cymunedol Cymru: “Y thema yw ‘Ein Cartref’ ac rydym eisiau dathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam fel rhan o Wythnos Genedlaethol Ffoaduriaid.
“Mae yna gymaint yn digwydd yn Wrecsam ac mae’n lle gwych i fyw – felly dewch draw i’r Parciau a helpwch ni i ddathlu ein dinas.
“Mae’n mynd i fod yn llawer o hwyl, gyda digonedd o adloniant a gweithgareddau. A waeth i ni fod yn onest…pwy sydd ddim yn caru picnic?! Welwn ni chi ddydd Sadwrn!”
Meddai’r Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau Cyngor Wrecsam: “Mae gennym ni gymaint o gymunedau gwych, a chroesawgar yn Wrecsam a dwi’n gobeithio y daw cymaint o bobl â phosibl draw.
“Mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad gwych ac yn ffordd hyfryd o ddathlu ‘Ein Cartref’”.
Mae’r digwyddiad yn dechrau am 1pm, ac mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim.
Mae llefydd parcio’n brin yn Y Parciau, felly pam na wnewch chi gerdded…neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus?
Neu parciwch yn un o’r prif feysydd parcio yng nghanol y ddinas a cherddwch draw i’r parc (mae mwyafrif y prif feysydd parcio yn eithaf agos).