Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo, wrth i Wrecsam ystyried trefniadau ar gyfer ailagor ysgolion i ddysgwyr y cyfnod sylfaen (plant 3-7 oed).
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y gallai ysgolion ddechrau ailagor ar gyfer plant iau o ddydd Llun, 22 Chwefror.
Er bod lefelau’r coronafeirws yn gostwng yn Wrecsam, mae’r ffigurau’n dal yn uchel iawn, felly mae’r cyngor a’r penaethiaid yn ystyried cynlluniau’n ofalus, wrth fonitro’r sefyllfa leol yn barhaus.
Yn sgil y dull gofalus hwn, ni fydd plant yn dychwelyd i ysgolion yn Wrecsam tan ddydd Gwener, 26 Chwefror ar y cynharaf – yn dibynnu ar lefelau lleol y coronafeirws ar ôl hanner tymor.
Dull gofalus
Bydd penaethiaid yn rhannu gwybodaeth fanylach gyda rhieni a gofalwyr ar ôl gwyliau’r hanner tymor, unwaith y bydd lefelau’r coronafeirws wedi’u hadolygu.
A hyd yn oed wedyn, bydd y cyngor a’r penaethiaid yn parhau i fonitro lefelau lleol, ac yn adolygu trefniadau os bydd angen.
Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y lefelau uchel parhaus o’r coronafeirws yn yr ardal.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Dywed y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:
“Mae lefelau’r coronafeirws wedi bod yn waeth o lawer yn Wrecsam o gymharu â llawer o rannau eraill o Gymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, felly rydym ni’n gweithredu’n ofalus.
“Byddwn yn monitro’r sefyllfa leol yn barhaus, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion i adolygu a chwblhau trefniadau ar ôl yr hanner tymor.
“Ni fydd dysgwyr y cyfnod sylfaen yn dychwelyd tan 26 Chwefror ar y cynharaf, a bydd penaethiaid yn rhoi gwybodaeth lawn i rieni.
“Mae’n ymwneud â helpu i gadw pobl yn ddiogel, a lles ein disgyblion, staff, rhieni, gofalwyr a chymunedau ehangach yw ein blaenoriaeth.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:
“Rydyn ni’n gweithio gydag penaethiaid cynradd, llywodraethwyr ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y dychweliad i’r ysgol yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
“Rhaid i ni gofio bod hwn yn firws ofnadwy, ac ni allwn fforddio gollwng ein gwarchod.
“Dyma pam ei bod mor bwysig ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i gadw ein plant, gweithwyr ysgol a’r cymunedau lle mae ein hysgolion wedi’u lleoli mor ddiogel ag y gallwn.”
Cynllunio gofalus
Dywed Karen Evans, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar:
“Gyda chefnogaeth y cyngor, bydd ysgolion yn cynllunio’n ofalus ar gyfer dychwelyd disgyblion y cyfnod sylfaen, gan ystyried y sefyllfa leol ar ôl yr hanner tymor.
“Hoffwn ddiolch unwaith eto i rieni a gofalwyr plant hŷn, a fydd yn parhau i ddysgu gartref.
“Rydyn ni’n gwybod bod dysgu o bell yn dod â sawl her i deuluoedd sy’n ceisio rheoli cyfrifoldebau gwaith a chartref, ac rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar i rieni, plant a staff am eu hymdrechion parhaus.”
Sut y gallwch chi helpu
Os bydd eich plant yn dychwelyd i’r ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf, helpwch i gadw ein hysgolion a’n cymunedau yn ddiogel drwy ddilyn y rheolau hyn:
- Peidiwch â rhannu car pan fyddwch yn gollwng neu’n casglu eich plant.
- Peidiwch ag ymgynnull wrth gatiau’r ysgol (peidiwch ag aros yno yn hwy nag sydd angen i chi wneud).
- Peidiwch â gadael i’ch plant gwrdd â grwpiau o blant o aelwydydd eraill y tu allan i’r ysgol (dywed y rheolau cyfredol mai dim ond un person arall y gallwch chi ei gyfarfod i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored).
CANFOD Y FFEITHIAU