Ty Pawb

Mae Tŷ Pawb yn gwahodd cerddorion creadigol i gyflwyno eu ceisiadau i’w cynnwys yn eu rhaglen cerddoriaeth fyw 2021-22, yn ddigidol ac mewn person.

Ers i gyfyngiadau gael eu cyflwyno oherwydd y pandemig ym Mawrth 2020 maen nhw wedi bod yn cyflwyno eu rhaglen cerddoriaeth fyw mewn fformat cwbl ddigidol trwy Facebook Live a’u sianel YouTube.

Maen nhw wedi cynnal 20 o sesiynau byw gydag artistiaid lle mae pobl wedi edrych arnyn nhw dros 40,000 o weithiau, a chefnogi cerddorion creadigol yn ystod cyfnod o her anrhagweladwy i’r diwydiant.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Bydd eu sesiynau byw yn parhau trwy 2021 ac i mewn i 2022 ac maen nhw rŵan yn edrych am ddatganiadau o ddiddordeb gan gerddorion creadigol i siapio eu rhaglen trwy godi tâl ar bobl am berfformiadau ar-lein ac unwaith y bydd y cyfyngiadau yn cael eu codi mewn person yn y lleoliad. Gall sesiynau digidol fod mewn fformat ffrydio byw neu sesiwn byw wedi’i recordio o flaen llaw a’i ddarlledu am y tro cyntaf ar Facebook a YouTube.

Meini prawf cymhwysedd

  • Rhaid i unrhyw fersiynau clawr o ddeunydd beidio â defnyddio traciau cefndirol oherwydd cyfyngiadau hawlfraint
  • Dylai perfformiadau bara rhwng 30-60 munud
  • Ar gyfer ffrydiau byw digidol dylai artistiaid gael rhyngrwyd o ansawdd da (cyflymder lanlwytho o leiaf 5MB) a gwe-gamera o ansawdd da a meic USB allanol lle bo hynny’n bosibl
  • Os ydych yn recordio sesiwn fyw wedi’i recordio ymlaen llaw, dylai artistiaid medru cynhyrchu ansawdd sain a fideo o safon uchel
  • Mae profiad o gynhyrchu cynnwys byw digidol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol
  • Mae presenoldeb cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein e.e. sianel Instagram/tudalen Facebook/gwefan yn ddymunol ond nid yn hanfodol
  • Nid oes unrhyw gyfyngiadau daearyddol ar gyfer perfformiadau ar-lein
  • Croesawn geisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw genre o bob cefndir

Sut i wneud cais

Cyflwynwch eich cais drwy e-bost at Swyddog Digwyddiadau Tŷ Pawb Morgan Thomas (Morgan.Thomas@wrexham.gov.uk). Yn eich cynnig, dylech gynnwys y canlynol:

  • Bywgraffiad cyffredinol ohonoch chi eich hun a’ch cerddoriaeth – gallai hyn gynnwys eich genre, profiad, os ydych wedi’ch arwyddo i label cerddoriaeth benodol ac yyb
  • O leiaf 2 enghraifft o’ch cerddoriaeth – yn ddelfrydol i gynnwys fideo o berfformiad byw
  • Dolenni i’ch gwefan, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, Bandcamp, Spotify ac yyb
  • Unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cyfle

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ond nodwch fod cynllunio rhaglen ar gyfer 2021-22 ar y gweill ac rydym yn awyddus i glywed gennych cyn gynted â phosibl.

😷 Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru 👈

CANFOD Y FFEITHIAU