Mae coeden arbennig wedi cael ei phlannu yn Sgwâr y Frenhines er cof am y rhai a gollwyd ym mhandemig Covid-19. Mae’n rhan o’r coffâd i nodi blwyddyn ers datgan y cyfnod clo a phan newidiodd bywyd i ni oll.
Bydd y goeden, Llwyfen “Gorwelion Newydd”, sydd ag ymwrthedd i’r Clefyd Llwyfen yr Iseldir, yn symbol o’r rhai a fu farw a gobeithiwn ddarparu cysur i’r teuluoedd sy’n galaru.
Bydd y fainc bresennol yn cael ei atgyweirio a’i newid o amgylch y goeden fel y gall pobl eistedd o dan gysgod y goeden yn yr haf.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Pan gawsom y cyfle i blannu coed yng nghanol y dref, roedd yn briodol iawn bod coeden gofio yn cael ei phlannu i’n galluogi ni oll i gofio am yr hyn a ddigwyddodd, yr effaith a gafodd ar fywydau pobl Wrecsam ac i genedlaethau’r dyfodol allu adlewyrchu.
“Rydym oll yn gobeithio y bydd yn rhoi cysur i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio’n bersonol ar ôl colli perthynas, ffrind neu gydweithiwr.”
Cafodd tair coeden geirios eu plannu yng nghanol y dref hefyd ar Stryd Henblas, fel rhan o’r grant Man Lleol ar gyfer Natur, gyda’r nod o ddod ag isadeiledd gwyrdd i fannau lle mae pobl yn byw a gweithio.
Bydd y coed hefyd yn darparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt a bydd yn gwella canol y dref yn barod pan fydd ymwelwyr yn dychwelyd.
CANFOD Y FFEITHIAU