Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Plant Wrecsam yn mynychu première o’r ffilm a grëwyd ganddynt
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Plant Wrecsam yn mynychu première o’r ffilm a grëwyd ganddynt
Pobl a lle

Plant Wrecsam yn mynychu première o’r ffilm a grëwyd ganddynt

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 21, 2023 9:37 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Plant Wrecsam yn mynychu première o’r ffilm a grëwyd ganddynt
RHANNU

Mae pobl ifanc lleol wedi mynychu première o CHWARAE – y Ffilm! – ffilm y gwnaethant helpu i’w chynhyrchu, serennu a chyfarwyddo ynddi dros wyliau’r haf.

Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf yn sinema’r Odeon yng Nghanolfan Siopa Dôl yr Eryrod yng nghanol dinas Wrecsam.

Gosodwyd “carped gwyrdd” ac ardal y wasg/ffotograffiaeth wrth y fynedfa i’r ystafell sgrinio i ychwanegu ychydig o glitz a hudoliaeth Hollywood at yr achlysur.

Cafodd CHWARAE – y Ffilm! ei chreu mewn arddangosfa arbennig o’r un enw, a gynhaliwyd yn Tŷ Pawb dros wyliau’r haf. Trawsnewidiwyd yr oriel yn set ffilm lle bu miloedd o blant yn gweithio ochr yn ochr ag artistiaid, gweithwyr chwarae, a gwneuthurwyr ffilm i archwilio chwarae yn Wrecsam.

CHWARAE – y Ffilm! yw gweledigaeth yr artist Rachael Clerke, a gomisiynwyd gan Tŷ Pawb gyda mewnbwn gan y gweithiwr chwarae Penny Wilson o Assemble Play.

Bu’r plant yn gweithio ochr yn ochr â’r artistiaid Ella Jones, Harold Offeh, Noemi Santos, Sarah Ryder, Jamila Walker a Rhi Moxon, gweithwyr chwarae lleol a 73 Degrees Films i greu ar y cyd ffilm epig sy’n archwilio chwarae yn Wrecsam.

Mae’r ffilm orffenedig yn cynnwys yr holl eiliadau gorau o 8 wythnos o ffilm. Fel y gallech ddisgwyl gyda’r plant wrth y llyw, cafwyd digon o eiliadau gwyllt a rhyfeddol, gan gynnwys chwilio am “ddyn Colomennod “Pigeon Man”, anturiaethau gofod ac ymosodiad zombie – yn amlwg!

‘Chwarae yw diwylliant plant’

Dywedodd Rachael Clerke: “Mae wedi bod yn gymaint o anrhydedd gweithio mor agos gyda phlant gwyllt, doniol, dyfeisgar Wrecsam ar CHWARAE – y Ffilm! Gwnaethant yr oriel yn rhai eu hunain dros yr haf ac mae’r ffilm yn adlewyrchu hyn yn hyfryd.

“Rwyf mor ddiolchgar i’r tîm yn Tŷ Pawb, yr holl artistiaid a gomisiynwyd, y gweithwyr chwarae anhygoel y buom yn cydweithio â nhw a 73 Degrees Films am ddod â’r cyfan at ei gilydd. Mae chwarae yn ddiwylliant plant, ac mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed i gadw lle ar gyfer hyn. Ni allaf feddwl am le gwell i wneud hynny na Wrecsam.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb dros Tŷ Pawb, y Cynghorydd Hugh Jones: “Mae hwn wedi bod yn achlysur gwych, i blant lleol allu gwylio ffilm y gwnaethon nhw helpu i’w chreu, i fyny ar y sgrin fawr lle maen nhw fel arfer yn gwylio eu holl hoff ffilmiau.

“Mae archwilio buddion chwarae a chreadigrwydd mewn plant yn rhywbeth y mae Wrecsam wedi dod yn enwog amdano. Mae’r prosiect i greu’r ffilm hon yn arddangos hyn yn berffaith, gydag artistiaid, gweithwyr chwarae, a phobl greadigol yn dod ynghyd yn Tŷ Pawb i greu rhywbeth sy’n dal egni a dychymyg ysbrydoledig y plant lleol a gymerodd ran yn berffaith. Llongyfarchiadau i’r tîm sydd wedi gweithio mor galed i gynhyrchu’r arddangosfa dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Bydd CHWARAE – y Ffilm! ar gael i’w gwylio, yn llawn, ar sianel YouTube Tŷ Pawb yn fuan iawn. Ymunwch â’n rhestr bostio Tŷ Pawb i gael diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Period products Cynnyrch mislif am ddim – helpwch ni i wella’r gwasanaeth yma
Erthygl nesaf Illegal vapes seizure Mae mwy o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu hatafaelu o siop yng nghanol y ddinas

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English