Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol i barc neu fan gwyrdd o safon.
Mae cyfanswm o 112 o fannau gwyrdd cymunedol yng Nghymru wedi cyrraedd y safon uchel y mae angen ei chyrraedd i dderbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd (101 yn 2017/18). Mae’r safleoedd hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal a chadw eu cyfleusterau gwych.
Bydd y faner yn chwifio yng Nghanolfan Adnoddau Gymunedol Plas Pentwyn i gydnabod ei chyfleusterau rhagorol a’i hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o safon.
Dywedodd y prif wirfoddolwr, Moira Taylor, “Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y faner werdd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Diolch yn fawr i blant Ysgol Gynradd Penygelli sy’n dod bob wythnos i helpu yn yr ardd gymunedol. Diolch hefyd i gymuned gyfan Coedpoeth am eu cyfraniadau ac am brynu ein planhigion, sy’n helpu i ariannu’r prosiect.”
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Krista Childs, “Mae’r gwirfoddolwyr ym Mhlas Pentwyn yn gweithio mor galed ac maen nhw wir yn haeddu’r wobr. Mae’r gerddi cymunedol yn lle hyfryd. Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith.”
Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei darparu yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae safleoedd yr ymgeiswyr yn cael eu beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â nhw a’u hasesu yn ôl wyth maen prawf caeth, sy’n cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a rhan y gymuned yn y gwaith.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobr y Faner Werdd, Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydyn ni mor falch o fod yn dathlu blwyddyn arall o dorri’r record am Wobrau Baneri Gwyrdd yng Nghymru. Mae’r holl faneri sy’n chwifio mewn safleoedd cymunedol yn brawf o ymroddiad a brwdfrydedd gwirfoddolwyr lleol sy’n gweithio’n ddiflino i wella safon ein mannau gwyrdd.
“Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r cyfleusterau gwych sydd gennym ni.”
Y safleoedd eraill yn y fwrdeistref sirol sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sy’n gwobrwyo mannau cyhoeddus yng ngofal sefydliadau fel eglwysi, ysgolion, grwpiau cymunedol ac eraill, yw:
- Maes y Pant, Chwarel Merffordd
- Eglwys y Santes Fair, y Waun
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus
Gallwch chi roi eich parc neu’ch man gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i gael mwy o wybodaeth.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN